Yr adeg yma’r llynedd fe wnaeth Bwca ryddhau eu halbwm début, a blwyddyn yn ddiweddarach rydym wrthi’n ymarfer ddwywaith yr wythnos at flwyddyn gyffrous o gigio, gyda sawl gig mawr yn y dyddiadur yn barod.
Ar ôl rhyddhau’r albwm, roedd tri chwarter cyntaf 2021 yn ddigon tawel i ni, ond o feddwl faint o waith aeth i mewn i ryddhau a hyrwyddo’r albwm roedd cael seibiant o gigio o ganlyniad i Cofid-19 yn rhywbeth i’w groesawu.
Daeth y seibiant yma i ben ym mis Medi pan ddaeth yna wahoddiad i Steff berfformio set solo Bwca yng Ngŵyl Tawe a drefnwyd gan Fenter Iaith Abertawe. Roedd cael chwarae caneuon yr albwm i gynulleidfa dda iawn yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn heb os nac oni bai.
‘Pwy sy’n Byw’n y Parrog?’
Erbyn mis Hydref, fe gyhoeddwyd sengl newydd sbon o’r enw ‘Pwy sy’n Byw’n y Parrog?’
Rhyddhawyd y gân brotest hon am effaith tai haf ar y Fro Gymraeg i gyd-fynd â rali’r ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn y Parrog yng ngogledd sir Benfro. Cafodd y gân dipyn o sylw, gan gynnwys bod yn destun trafodaeth ar Dros Ginio gyda Vaughan Roderick, ac fe gafodd ei chwarae ar raglenni Newyddion S4C.
Cafodd Bwca hefyd gyfle i berfformio’r gân yn y rali ei hun, a hynny gyda dau aelod newydd i’r band – Hywel Griffiths ar y gitâr a’r lleisiau cefndirol a Dilwyn Roberts ar yr organ geg.
Menter Tafarn y Vale
Erbyn mis Rhagfyr roedd Bwca wedi cael eu tynnu i mewn i ymgyrch gymunedol tra gwahanol, sef Menter Tafarn y Vale.
Rhoddwyd cot o baent newydd ar un o ffefrynnau’r band, sef ‘Lan yn y Gen’ (sy’n sôn am dafarn y Llew Du), er mwyn rhyddhau sengl tafod yn y boch newydd i hyrwyddo’r ymgyrch, sef ‘Lawr yn y Vale’. Pleser yw cyhoeddi i’r ymgyrch fod yn llwyddiannus ac mae disgwyl i’r dafarn ailagor ei drysau yn fuan. Ac fel mae geiriau’r gân yn dweud: ‘Bydd bywyd yn fêl yn y Vale’ wedi’r cwbl!
I gloi’r flwyddyn cafodd y triawd newydd, sef Steff, Dilwyn a Hywel, wahoddiad gan fyfyrwyr Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth i recordio set fer o ddwy gân ar gyfer eu Noson Llên a Chân rithiol – digwyddiad y gallwch ei fwynhau yn ei gyfanrwydd drwy glicio yma: Noson Llên a Chân Rhagfyr 2021.
Ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, mae Bwca wrthi’n ymarfer yn fwy rheolaidd nag erioed, ac yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur a bywiog o gigio.
I ddilyn holl hynt a helynt Bwca ar draws y wlad, gallwch eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a gwrando ar eu holl gerddoriaeth drwy glicio yma: Coeden Ddolen Bwca