Bingo!

Bingo Apêl Sioe’r Cardis 2024

gan Sara Jenkins
310579282_653194289777879

Bingo!

307538738_1251695125612522

Ymgeiswyr y gystadleuaeth cerfio pwmpen

312994473_485298966897652

Elsi a Magw o Dal-y-bont yn ail

308338341_471967458244893

Jean o Lanilar gyda’i phwmpen ‘Sioe’r Cardis’

308337209_660557995765869

Glesni Jên – enillydd y gystadleuaeth pwmpen wedi’i cherfio

309871216_418076213680721

Elinor oedd yn bedwerydd yn y gystadleuaeth pwmpen wedi’i cherfio

Cafwyd noson hwyliog tu hwnt yn Neuadd Llanfarian nos Wener diwethaf yng nghwmni’r galwr bingo Ifor Morgan, er budd apêl Sioe’r Cardis 2024.

Hwn oedd y digwyddiad cyntaf i’w drefnu gan bwyllgor gogledd y sir, ac roedd yn ddechreuad arbennig i’r ymgyrch.

Yn ogystal a’r bingo, fe wnaeth cystadleuaeth pwmpen wedi’i cherfio ddenu nifer fawr o ymgeiswyr. Esyllt Ellis Griffiths, Llysgenhades y Sioe, oedd y beirniad, a dyfarnodd y wobr gyntaf i ymgais Glesni Jên, o Dy’n-y-graig, gydag Elsi a Magw o Dal-y-bont yn ail, Jean o Lanilar yn drydydd ac Elinor o Glarach yn 4ydd.

Diolch yn fawr iawn i neuadd Llanfarian am ganiatáu i ni gynnal y noson yno, i Martin Watkins am fenthyg yr offer sain ac i’r holl noddwyr hael;

Prif noddwr: Tafarn yr Halfway Inn

Noddwyr y gemau:

Chwaethus

Ani-bendod

Sinsir

Siop Inc

Pwmpenni Pendre

Llaeth Teulu Jenkins

Cigydd Bow Street

Wyn James, Cadeirydd y Pwyllgor

Cynhelir cyfarfod o bwyllgor y gogledd nos Fawrth, 1 Tachwedd, am 19:30 yn neuadd Llanfarian – croeso cynnes i wynebau newydd

Digwyddiadau i ddod:

11.12.2022 – Cymanfa Garolau, Capel Llanilar

27.12.2022 – Taith Tractorau Nadolig