Cafwyd noson hwyliog tu hwnt yn Neuadd Llanfarian nos Wener diwethaf yng nghwmni’r galwr bingo Ifor Morgan, er budd apêl Sioe’r Cardis 2024.
Hwn oedd y digwyddiad cyntaf i’w drefnu gan bwyllgor gogledd y sir, ac roedd yn ddechreuad arbennig i’r ymgyrch.
Yn ogystal a’r bingo, fe wnaeth cystadleuaeth pwmpen wedi’i cherfio ddenu nifer fawr o ymgeiswyr. Esyllt Ellis Griffiths, Llysgenhades y Sioe, oedd y beirniad, a dyfarnodd y wobr gyntaf i ymgais Glesni Jên, o Dy’n-y-graig, gydag Elsi a Magw o Dal-y-bont yn ail, Jean o Lanilar yn drydydd ac Elinor o Glarach yn 4ydd.
Diolch yn fawr iawn i neuadd Llanfarian am ganiatáu i ni gynnal y noson yno, i Martin Watkins am fenthyg yr offer sain ac i’r holl noddwyr hael;
Prif noddwr: Tafarn yr Halfway Inn
Noddwyr y gemau:
Ani-bendod
Wyn James, Cadeirydd y Pwyllgor
Cynhelir cyfarfod o bwyllgor y gogledd nos Fawrth, 1 Tachwedd, am 19:30 yn neuadd Llanfarian – croeso cynnes i wynebau newydd
Digwyddiadau i ddod:
11.12.2022 – Cymanfa Garolau, Capel Llanilar
27.12.2022 – Taith Tractorau Nadolig