Beicio er budd y Banc Bwyd

Codi arian at Stordy Jubilee, sef banc bwyd ardal Aberystwyth

gan Sharon Owen

Rydw i’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Penweddig, ac fel rhan o fy ngwaith tuag at ennill Gwobr Dug Caeredin (Efydd), rydw i wedi treulio pob bore Sadwrn am ddeuddeg wythnos yn helpu gyda gwaith Banc Bwyd Stordy Jubilee. Mae’r Banc Bwyd hwn yn cefnogi unigolion a theuluoedd yn ardal Aberystwyth.

 

Yn ystod 2020, cafodd 1401 o becynnau bwyd eu dosbarthu gan Stordy Jubilee, a bu 2152 o unigolion (gan gynnwys 950 o blant) yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n wasanaeth mor werthfawr ar adeg pan mae costau byw yn cynyddu.

 

Mae fy ngwaith gwirfoddoli wythnosol wedi bod yn amrywiol, ac mae’r tasgau wedi cynnwys trefnu’r stoc bwyd, casglu cyfraniadau, clirio a glanhau, paratoi pecynnau bwyd, ayb. A diolch i Catherine Griffiths a chriw gweithgar o wirfoddolwyr y Banc Bwyd am eu holl waith ac am y cyfle i wirfoddoli gyda nhw.

 

Fel ffordd o godi arian i’r banc bwyd, penderfynais osod her i mi fy hun, sef i feicio 50 milltir yn ystod mis Mawrth. Fe fues i’n beicio ar hyd Llwybr Rheidol, Llwybr Ystwyth ac yna i gwblhau’r her, beiciais dros 20 milltir ar hyd Lôn Eifion yng Ngwynedd gan orffen y daith yn nhŷ Taid. Roedd yn ddiwrnod bendigedig o braf!

 

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi fy noddi yn barod, mae’r cyfanswm ar hyn o bryd yn £225. Os hoffech gyfrannu, yna mae’r apêl yn agored tan 14 Ebrill. Byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi yn fawr. Dyma’r ddolen i’r dudalen Just Giving: https://www.justgiving.com/crowdfunding/cyclingjubileestorehouse

Diolch o galon.

Gethin Owen-Hughes