gan
Betsan Siencyn
Heriodd Garmon Nutting a Dean Evans ei gilydd i beidio â thorri eu gwalltiau am mor hired â phosib… Deunaw mis yn ddiweddarach, ac mae eu gwalltiau wedi cyrraedd eu hysgwyddau, felly mae’n bryd rhoi gorau i’r her mewn steil. Bydd y ddau ffrind yn torri eu gwalltiau fis nesaf ar eu penblwyddi, yn y dafarn leol. Felly, os ydych chi awydd eu gwylio, ewch draw i dafarn Rhydypennau am 8yh ar y 19eg o Fawrth. Byddant yn cynnal ocsiwn a raffl yno hefyd, a bydd yr holl arian yn mynd at Mind Aberystwyth. Os hoffech gyfrannu tuag at yr achos da, cliciwch yma.