Mae’r ymateb wedi bod yn wych i Eisteddfod y DDOLEN 2022. Daeth cyfanswm o dros 500 o geisiadau i law ar draws yr holl gystadlaethau a’r beirniaid yn canmol y safon.
Gystal oedd y safon, medrwn fod wedi gwobrwyo sawl cystadleuydd, felly pwysleisiaf mai CHWAETH BERSONOL oedd y penderfyniadau yn y diwedd.
John Jones, Ystrad Meurig
Diolch yn fawr i John Jones, Valériane Leblond a Marian Delyth am roi o’u hamser i feirniadu.
Edrychwn ymlaen at rannu’r canlyniadau gyda chi yn rhifyn Mawrth y papur bro sydd yn y siopau ddydd Sadwrn yma.
Ond tra bod chi’n aros yn eiddgar i wybod pwy sydd wedi cyrraedd un, dau a tri, dyma rannu gyda chi arddangosfa o waith celf y plant cynradd.
Dywedodd Valériane..
‘Hyfryd oedd gweld bod cymaint wedi cystadlu.’
Mae’n werth pori drwy’r ceisiadau hyfryd a diolch i ysgolion dalgylch y papur bro am gefnogi. Tybed pa ddarnau o waith fyddech chi wedi gwobrwyo, pe byddech chi’n feirniad?
Cofiwch fynd i brynu eich copi o Y DDOLEN ddydd Sadwrn. Mae’n cynnwys pum tudalen o ganlyniadau, beirniadaethau a chynnyrch yr Eisteddfod.