Anrhydeddu Helen a Lona

Diolch arbennig i sylfaenwyr Adran Aberystwyth

gan Elin Mair Mabbutt
IMG_8538
IMG_20220519_192759

Lona a Helen gyda Heledd Cynwal

IMG_7888

Aelodau Adran Aberystwyth gyda Helen, Lona a Heledd Cynwal

Nid mater rhwydd yw cadw cyfrinach! Yn enwedig pan mae’r gyfrinach honno yn newyddion da. Trefnwyd syrpreis hapus yn un o ymarferion diweddar criw Adran Aberystwyth wrth iddynt baratoi i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych – daeth criw teledu i’r ystafell gan ddatgelu mai Helen Williams a Lona Phillips, sylfaenwyr Adran Aberystwyth, yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2022.

Cynigir y wobr yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru, ac yn bendant, mae Helen a Lona wedi gweithio’n ddiflino ers 2009 i gynnig profiadau gwych i ieuenctid cylch Aberystwyth. Cafodd yr Adran ei sefydlu yn wreiddiol er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion oed cynradd gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010, ac maent wedi cystadlu yn flynyddol.

Yn ogystal â chanu, mae gweithgareddau wythnosol criw’r Adran yn cynnwys chwaraeon, drama, celf a chrefft, a chwisiau – mae rhywbeth at  ddant pawb, ac mae nifer yr aelodau yn mynd o nerth i nerth. Cael hwyl a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r nod, ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd o ysgolion eraill y cylch.

“O’r fesen fach fe dyfon ni

A bwrw gwreiddiau tynn

A thyfu’n falch i’r byd gael gweld

Ein bod ni o’r fan hyn,

A’n bod ni’n deulu mawr cytûn

O frigau mawr a mân

Yn meithrin blagur bychan bach

I ddeilio’n fôr o gân.”

RAJ

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:

“Mae mudiad yr Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo ac mae eu brwdfrydedd yn dangos pa mor werthfawr, a chymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”

Cyflwynwyd y medalau i Helen a Lona mewn seremoni gyhoeddus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Braf oedd gweld nifer fawr o deulu, ffrindiau ac aelodau (a chyn-aelodau) Adran Aberystwyth yno yn eu cefnogi.

Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy a phob dymuniad da i Adran Aberystwyth.