Nid mater rhwydd yw cadw cyfrinach! Yn enwedig pan mae’r gyfrinach honno yn newyddion da. Trefnwyd syrpreis hapus yn un o ymarferion diweddar criw Adran Aberystwyth wrth iddynt baratoi i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych – daeth criw teledu i’r ystafell gan ddatgelu mai Helen Williams a Lona Phillips, sylfaenwyr Adran Aberystwyth, yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes 2022.
Cynigir y wobr yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru, ac yn bendant, mae Helen a Lona wedi gweithio’n ddiflino ers 2009 i gynnig profiadau gwych i ieuenctid cylch Aberystwyth. Cafodd yr Adran ei sefydlu yn wreiddiol er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion oed cynradd gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010, ac maent wedi cystadlu yn flynyddol.
Yn ogystal â chanu, mae gweithgareddau wythnosol criw’r Adran yn cynnwys chwaraeon, drama, celf a chrefft, a chwisiau – mae rhywbeth at ddant pawb, ac mae nifer yr aelodau yn mynd o nerth i nerth. Cael hwyl a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’r nod, ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd o ysgolion eraill y cylch.
“O’r fesen fach fe dyfon ni
A bwrw gwreiddiau tynn
A thyfu’n falch i’r byd gael gweld
Ein bod ni o’r fan hyn,
A’n bod ni’n deulu mawr cytûn
O frigau mawr a mân
Yn meithrin blagur bychan bach
I ddeilio’n fôr o gân.”
RAJ
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:
“Mae mudiad yr Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo ac mae eu brwdfrydedd yn dangos pa mor werthfawr, a chymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”
Cyflwynwyd y medalau i Helen a Lona mewn seremoni gyhoeddus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Braf oedd gweld nifer fawr o deulu, ffrindiau ac aelodau (a chyn-aelodau) Adran Aberystwyth yno yn eu cefnogi.
Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy a phob dymuniad da i Adran Aberystwyth.