Mae’r Angel Gyllell wedi cyrraedd

Manteisiwch ar y cyfle i weld y cerflun trawiadol yma.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Angel Gyllell 1
Angel Gyllell Dwylo

Os nad ydych chi wedi taro draw i sgwâr Llys y Brenin i weld yr Angel Gyllell, mae’r cerflun yno tan 29 Mehefin. Mae’r lluniau uchod wedi cael eu tynnu toc wedi 6 yr hwyr, gyda’r haul o’r gorllewin yn disgleirio ar y cerflun 27 troedfedd. Mae’r lluniau manwl uchod yn rhoi cipolwg ar gampwaith yr artist Alfie Bradley ac yn ein hatgoffa o’r angen i atal erchylltra troseddu gyda chyllyll.

Ewch am dro ar y Prom ar noswaith heulog ac fe welwch y cerflun ar ei orau.