Angel Gyllell yn dod i Lys y Brenin ym mis Mehefin

Cerflun yn dod i Aberystwyth mewn partneriaeth rhwng Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Tref Aberystwyth

Bydd cerflun anferth 27 troedfedd o hyd, wedi’i wneud o 100,000 o gyllyll yn cael ei groesawu i dref Aberystwyth ar y 1af o Fehefin am gyfnod o bedair wythnos.  Bydd grwpiau cymunedol lleol hefyd yn dod at ei gilydd i hyrwyddo negeseuon atal, gwrth-drais a gwrthymosodiad.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, yn cydweithio â Chyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion i ddod â’r Angel Gyllell i Lys y Brenin, Aberystwyth, lle bydd yn ein hatgoffa o effeithiau trais ac ymddygiad ymosodol.

Bydd y cerflun eiconig – a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig ac a grëwyd gan yr artist Alfie Bradley – yn cael ei arddangos yn y dref tan 29 Mehefin 2022.

Dyma’r eildro i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn ddod ar Angel Gyllyll i ardal Heddlu Dyfed Powys, gyda’i ymweliad cyntaf yn y Drenewydd, Powys yn 2020.

Mae Mr Llywelyn wedi bod yn awyddus i ddod â’r Angel Gyllyll yn ôl i ardal yr Heddlu ers 2020, er mwyn i gymunedau eraill allu cymryd rhan yn y negeseuon allweddol.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn;

“Mae’r Angel Gyllyll yn ein hatgoffa o’r effaith ddinistriol y mae troseddau cyllyll, ac unrhyw fath o drais ac ymddygiad ymosodol yn ei chael ar deuluoedd a chymunedau.

“Er bod cynnydd o 105% wedi bod mewn troseddau cyllyll yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, nid yw’r Angel Gyllell wedi dod i Aberystwyth oherwydd unrhyw broblem fawr gyda’r math hwn o drosedd yn yr ardal.

“Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod bod troseddau cyllyll wedi digwydd yma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er bod cyfran o’r rhain yn ddomestig, nid yn ddigwyddiadau’r stryd, mae’n destun pryder fod nifer fach o’r rhain yn cynnwys pobl dan 18 oed. Rwy’n falch iawn I weld fod yr Heddlu a phartneriaid wedi dod at ei gilydd dros y 6 mis diwethaf i roi ymyriadau ar waith i ddargyfeirio plant o droseddau cyllyll.

“Mae atal trosedd a dargyfeirio oddi wrth droseddu yn hanfodol. Gobeithiwn y bydd yr Angel Gyllyll yn ein cynorthwyo’n fawr i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll ac ymddygiad treisgar yn ein cymunedau.”

Dywedodd Maer Tref Aberystwyth, Dr Talat Chaudhri,

“Rydym ni’n croesawu’r Angel Gyllyll i Aberystwyth ac yn cydsefyll â threfi a dinasoedd lle mae trosedd cyllyll yn broblem fwy nag y mae e yma. Nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein cymuned ni.”

Mae plant a phobl ifanc o bob rhan o Aberystwyth ac ardaloedd cyfagos yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau yn ystod yr ymweliad, yn ogystal grwpiau a sefydliadau cymunedol.