

Angharad Davies, CFfI Trisant yn arwain yn y cylch yn y gystadleuaeth magu llo.

Ynyr Siencyn, CFfI Talybont yn derbyn ei dystysgrif.

Ynyr Siencyn, CFfI Talybont, Gethin Davies, CFfI Lledrod a Gethin Morgans CFfI Llanwenog

Meriel Evans, CFfI Llangwyryfon, Eiry Williams, CFfI Llangwyryfon, Steffan George, CFfI Lledrod a Gethin Davies, CFfI Lledrod

Tim Barnu Carcas Wyn yn derbyn eu tystysgrif

Eiry Williams, CFfI Llangwyryfon yn derbyn ei thystysgrif

Tom Evans, CFfI Trisant

Dewi Davies, CFfI Llanddeiniol yn cymryd rhan mewn sialens coginio

Gethin Davies, pencampwr magu wyn, CFfI Llangeitho
Mae wedi bod yn ddeuddydd prysur yn Llanelwedd i’r ffermwyr ifanc.
Llongyfarchiadau mawr i’r aelodau ar eu llwyddiant. Mae’r ffair aeaf yn ddigwyddiad hyfryd, cartrefol ac yn gyfle da i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Sgiliau amaethyddol sy’n cael eu profi’n bennaf a da gweld fod amaethwyr ifanc Ceredigion yn cyrraedd y brig.
Tîm Barnu Wyn Cigyddion
Llongyfarchiadau i Ynyr Siencyn, CFfI Talybont ar ddod i’r ail safle yn unigol dan 18 oed a daeth tîm CFfI Ceredigion yn 3ydd.
Cynllun Wyn CFfI Cymru
Llongyfarchiadau i Tom Evans, CFfI Trisant ar ennill y carcas oen gorau yn adran yr iseldir.
Tîm Barnu Carcas Wyn
Roedd pob un aelod o’r tîm wedi ennill y marciau uchaf am roi rhesymau yn Gymraeg. Ardderchog eich gweld yn defnyddio’r iaith Gymraeg a daliwch ati.
Daeth y tîm i’r safle cyntaf hefyd ar draws yr holl gystadlaethau felly canlyniadau cyson gan bob un ohonynt.
Cystadleuaeth Magu Llo
Llongyfarchiadau i Angharad Davies, CFfI Trisant ar ennill y gystadleuaeth magu llo. Cyfle i arddangos sgiliau stocmon wrth baratoi llo ar gyfer y sioe yw’r gystadleuaeth yma ac yn brofiad gwych i ffermwyr ifanc.
Rhaid sôn hefyd fod pencampwr magu wyn eleni yn dod o’r ardal, sef Gethin Davies ac yn aelod o CFfI Lledrod.
Mae aelodau eraill hefyd wedi mwynhau’r elfen o gymdeithasu a rhyngweithio sy’n elfen bwysig iawn o ddigwyddiadau fel hyn. Ar hyn o bryd mae Dewi Davies, CFfI Llanddeiniol yn is-gadeirydd pwyllgor materion gwledig CFfI Cymru ac un o’r digwyddiadau bu’n cymryd rhan ynddo yn rhinwedd ei rôl oedd sialens coginio!
Llongyfarchiadau i bawb. Cyfle gwych arall i aelodau’r CFfI.