Mae wedi bod yn ddeuddydd prysur yn Llanelwedd i’r ffermwyr ifanc.
Llongyfarchiadau mawr i’r aelodau ar eu llwyddiant. Mae’r ffair aeaf yn ddigwyddiad hyfryd, cartrefol ac yn gyfle da i gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau. Sgiliau amaethyddol sy’n cael eu profi’n bennaf a da gweld fod amaethwyr ifanc Ceredigion yn cyrraedd y brig.
Tîm Barnu Wyn Cigyddion
Llongyfarchiadau i Ynyr Siencyn, CFfI Talybont ar ddod i’r ail safle yn unigol dan 18 oed a daeth tîm CFfI Ceredigion yn 3ydd.
Cynllun Wyn CFfI Cymru
Llongyfarchiadau i Tom Evans, CFfI Trisant ar ennill y carcas oen gorau yn adran yr iseldir.
Tîm Barnu Carcas Wyn
Roedd pob un aelod o’r tîm wedi ennill y marciau uchaf am roi rhesymau yn Gymraeg. Ardderchog eich gweld yn defnyddio’r iaith Gymraeg a daliwch ati.
Daeth y tîm i’r safle cyntaf hefyd ar draws yr holl gystadlaethau felly canlyniadau cyson gan bob un ohonynt.
Cystadleuaeth Magu Llo
Llongyfarchiadau i Angharad Davies, CFfI Trisant ar ennill y gystadleuaeth magu llo. Cyfle i arddangos sgiliau stocmon wrth baratoi llo ar gyfer y sioe yw’r gystadleuaeth yma ac yn brofiad gwych i ffermwyr ifanc.
Rhaid sôn hefyd fod pencampwr magu wyn eleni yn dod o’r ardal, sef Gethin Davies ac yn aelod o CFfI Lledrod.
Mae aelodau eraill hefyd wedi mwynhau’r elfen o gymdeithasu a rhyngweithio sy’n elfen bwysig iawn o ddigwyddiadau fel hyn. Ar hyn o bryd mae Dewi Davies, CFfI Llanddeiniol yn is-gadeirydd pwyllgor materion gwledig CFfI Cymru ac un o’r digwyddiadau bu’n cymryd rhan ynddo yn rhinwedd ei rôl oedd sialens coginio!
Llongyfarchiadau i bawb. Cyfle gwych arall i aelodau’r CFfI.