Côr Cyd Aberystwyth yn ymarfer at yr Eisteddfod

Daeth Oliver Chanarin, ffotograffydd o fri i dynnu lluniau ohonom yn ymarfer

Felicity Roberts
gan Felicity Roberts
Côr Cyd-Aberystwyth-llun-Oliver Chanarin

Ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod

Lluniau Oliver Chanarin o Gôr Cyd Aberystwyth sydd yma, mewn ymarfer ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Byddwn yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Côr yn yr Adran Dysgu Cymraeg, ond mae hawl gennym i’r côr gynnwys 25% o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. Bydd criw llai gyda dysgwyr yn unig yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Parti Canu hefyd.

Drwy garedigrwydd swyddogion Eglwys Gymraeg y Santes Fair Aberystwyth, ‘rydym yn cael ymarfer yno bob nos Iau.

Gwelir yn eistedd yn y blaen Nest Howells, Arweinydd y Côr, a Felicity Roberts (afr@aber.ac.uk), y Trefnydd. Wrth yr organ mae Aeron Williams.

Gweler hefyd lun o ddwy aelod o’r Côr, a oedd wedi dal llygad y ffotograffydd yn eu gwisgoedd lliwgar.

Mae Susan ar y chwith yn siaradwraig Gymraeg iaith gyntaf o Geredigion ac yn un o hoelion wyth yr altos, ac mae Anne sydd wedi dysgu Cymraeg yn dod yn wreiddiol o Ganada, hithau yn alto gref.

Ethos y côr ydy ein bod yn meithrin yr arfer o ddefnyddio’r Gymraeg rhwng dysgwyr a’i gilydd a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac wrth gwrs fel iaith i fwynhau canu ynddi.