Aberystwyth yw cartref rali Nid Yw Cymru Ar Werth 2022

Cymdeithas yr Iaith yn trefnu rali yn Aberystwyth ym mis Chwefror

Cynhelir rali Nid yw Cymru ar Werth yn Aberystwyth am 2 y prynhawn ar y 19eg o Chwefror 2022. Mae hyn yn dilyn ralïau llwyddiannus yn Nhryweryn ac yng Nghaerdydd yn 2021 ac i amlygu’r problemau dirfawr yn y farchnad dai.

Mae’n amlwg fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau’r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith

Ar 60 mlwyddiant darlledu araith Saunders Lewis “Tynged yr Iaith” bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw pobl o gymunedau lleol ledled y wlad ynghyd at Rali Tynged yr Iaith yn Aberystwyth fel cam nesaf yr ymgyrch “Nid yw Cymru ar Werth”.Yn ein maniffesto ddeng mlynedd yn ôl “Tynged yr Iaith 2” fe ddatganon ni mai “Dyfodol yr Iaith yw Dyfodol ein Cymunedau”.

Byddwn yn dod ynghyd yn Aberystwyth i bwyso ar y Llywodraeth am ymrwymiad at Ddeddf Eiddo gyflawn a fydd yn rhoi i’n cymunedau reolaeth ar eu stoc tai a’u dyfodol. Dewch ag enw eich cymuned !

Bydd y rali yn ymgynnull ger pont enwog Trefechan, ac yna yn gorymdeithio trwy’r dref at swyddfeydd y Llywodraeth a Chyngor Ceredigion.

Fe fydd hwn yn bwnc mawr ar gyfer yr etholiadau lleol fis Mai a her bendant i Lywodraeth Cymru.

Siaradwyr y rali fydd:

  • Heledd Gwyndaf – ymgyrchydd a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith;
  • Mabli Siriol – cadeirydd Cymdeithas yr Iaith;
  • Bryn Fôn – actor, canwr ac ymgyrchydd;
  • Mared Edwards – Llywydd UMCA;
  • Gwenno Morris – sydd yn chwilio am dŷ fforddiadwy yn ei chymuned enedigol
  • Tecwyn Ifan – canwr

Dywedodd Mabli Siriol ar drothwy’r rali: –

Daliwn i bwyso i sicrhau na fydd y llywodraeth yn cyfaddawdu. Daliwn i bwyso dros flaenoriaethu cymunedau nid cyfalafiaeth. Daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o’r diwedd a pharhad i’n cymunedau. Daliwn i bwyso fel bod tai yn darparu cartrefi yn hytrach nag yn asedau masnachol i wneud elw.

Bydd mwy o fanylion bob dydd ar dudalen facebook y digwyddiad.