Nes i fwynhau gwylio dathliad Emlyn a’i dad ar ol iddo sgorio!
Er fod e’n chware i’r Met mae’n wreiddiol o Bennant a crwtyn o Landdeiniol i’w Wil, ei dad. Dyna oedd moment sbesial rhwng tad a mab.
Er nad oedd cymaint o gefnogwyr yng Nghoedlan y Parc nos Sadwrn o’i gymharu â’r gêm gwpan yn erbyn Aber Valley, roedd torf dda yn cefnogi Aber ar gyfer y gêm bwysig yma yn hanner gwaelod y JD Cymru Premier.
Gyda’r rhediad o golledion agos yn parhau, roedd Aber yn benderfynol o ddefnyddio’r dorf i’w mantais i gipio’r tri phwynt yn erbyn tîm Met Caerdydd oedd wedi cael dechrau cymysg i’r tymor.
Er hyn, dim ond pum munud ar ôl dechrau’r gêm, roedd yn rhaid i Jon Owen hercian oddi ar y cae dros dro ar ôl anafu’i goes. Erbyn yr wythfed funud, roedd wedi’i eilyddio gyda Sam Phillips yn cymryd ei le.
Doedd dim rhaid i Aber aros yn hir i gael y cyfle cyntaf. Gyda Matty Jones yn crymanu’r bêl o gornel o’r asgell dde tuag at y postyn pellaf, cafwyd symudiad clyfar gan Harry Franklin i ddarganfod gofod yn y cwrt a sicrhau peniad rhydd. Neidiodd yn dda ond peniodd yn bwerus heibio’r postyn agosaf.
Am y deg munud nesaf, roedd gan amddiffyn y tîm cartref dipyn o waith i’w wneud. Roedd y Met yn ymosod yn dda ond roedd Davies a Bradford yn well. Er gwaethaf y pwysau, methodd yr ymwelwyr â sgorio ac roedd y ddau ifanc yng nghanol amddiffyn Aber yn edrych yn weddol gadarn.
Ar ôl 29 munud, wrth i Aber ymosod yn dda, torrodd Franklin i mewn o’r asgell chwith a rhedodd tuag at y cwrt cosbi. Ochrgamodd yn wych ac roedd yn edrych fel petai Aber ar fin cael cyfle da. Yn anffodus, daeth tacl hwyr gan Emlyn Lewis, amddiffynnwr canol y Met, a loriodd Franklin. Chwaraeodd y dyfarnwr fantais ond roedd yn rhy hwyr, roedd y cyfle wedi mynd. Arhosodd Franklin ar y llawr ac roedd rhaid iddo gael tipyn o driniaeth ar y cae.
Gydag Aber i lawr i ddeg dyn dros dro ar ôl 33 munud, gwelwyd un o gyfleoedd gorau’r gêm hyd yn hyn. Croesodd Matty Jones y bêl o’r asgell dde tuag at Raul Correia. Rheolodd Correia y bêl yn grefftus gyda thu fewn ei droed a’i gefn yn wynebu’r gôl. Llwyddodd i droi a chadw’r bêl gan ddangos ei gryfder ond pan saethodd, gwyrodd y bêl oddi ar droed Lewis. Tacl dyngedfennol gan amddiffynnwr y Met.
Yn anffodus i Aber, roedd Franklin i’w weld wedi cael anaf difrifol ac roedd rhaid ei eilyddio.
Yn neng munud olaf yr hanner cyntaf, roedd y Met yn rheoli. Ar ôl 35 munud, methodd sawl ymosodwr â chysylltu â chroesiad isel yn y cwrt ac fe gliriodd Aber. Wedi 38 munud o chwarae, llwyddodd y Met i gael y bêl yng nghefn y rhwyd ond roedd y “sgoriwr” yn camsefyll.
Dangosodd Gregor Zabret ei dalent wrth iddo arbed yn wych ddwy waith gyda’r hanner yn dod i ben – roedd Aber yn lwcus i fod yn gyfartal.
Er gwaethaf y diweddglo sigledig ar ddiwedd yr hanner cyntaf, dechreuodd Aber yn ail yn wych. Dim ond naw munud i mewn i’r ail hanner ac fe gafodd Jamie Veale gyfle gwych i agor y sgorio. Pasiodd Sam Phillips y bêl i Veale ar gornel dde’r cwrt cosbi. Saethodd Veale gan guro Lang yn y gôl, ond taranodd y bêl oddi ar y postyn.
Gyda 74 munud wedi’u chwarae, roedd Aber yn dal i bwyso am y gôl agoriadol. Daeth cyfle i Aber ond roedd Lang yn sefyll yn gadarn yn y gôl i’r Met. Roedd Zabret yn cael gêm arbennig yn y gôl hefyd ac yn sicr yn seren y gêm i Aber. Wedi 76 munud o chwarae, safiodd ddwy ergyd beryglus o fewn eiliadau i’w gilydd.
Wrth i’r frwydr ddod i ben, roedd yn edrych fel petai’r pwyntiau’n cael eu rhannu ond fe gafodd y Met gyfle yn y funud olaf i dorri calonnau Aber. Croeswyd y bêl o gornel ar yr asgell chwith ond methodd y Met â’i phenio tuag at y gôl. Ciciwyd y bêl i fyny yn yr awyr ar ochr y cwrt cosbi ac wrth iddi ddisgyn, trawodd Lewis y bêl ar y foli wrth droelli. Adlamodd y bêl oddi ar Louis Bradford a heibio Zabret. Gôl hwyr unwaith eto yn llorio Aber.
Gyda gôl hwyr Lewis yn cipio’r tri phwynt, dyma’r bedwaredd gêm yn olynol yn y gynghrair y mae Aber wedi’i cholli o un gôl i ddim. Mi fydd Aber yn gobeithio torri’r rhediad yn y “derby” yn erbyn y Drenewydd ar yr 17eg o Fedi. Bydd Cobisiero yn gobeithio na fydd yr anafiadau i Owen a Franklin cynddrwg ac y bydd Lee Jenkins yn ôl yn fuan i atgyfnerthu’r amddiffyn.