Ystyried teithiau ceffyl a throl ar bromenâd Aberystwyth

Byddai’n “fusnes ardderchog” i Aberystwyth yn ôl y Cynghorydd John Roberts

Huw Bebb
gan Huw Bebb

Gallai teithiau ceffyl a throl fod ar gael ar bromenâd Aberystwyth yn y dyfodol os bydd y cyngor yn penderfynu newid ei bolisi trwyddedu.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Awst ar y posibilrwydd o ddiwygio polisi trwyddedu i gynnwys amodau ceffylau a throl.

Clywodd aelodau’r pwyllgor trwyddedu ddydd Iau (16 Medi) fod tua 200 o ymatebion wedi bod i’r ymgynghoriad.

Roedd y polisi drafft yr ymgynghorwyd arno yn cynnwys trwyddedu ceffyl a throl, llwybrydd dynodedig rhwng Promenâd Newydd a Marine Terrace ac addasu safle tacsis.

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts y byddai’n “fusnes ardderchog” i Aberystwyth a byddai’n denu pobol i’r dref.

Ond mae’r Cynghorydd Gareth Davies “ychydig yn amheus” o’r cynllun.

“Os yw’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yn dweud nad ydyn nhw ei eisiau, dydw i ddim yn gweld pam y bydden ni’n dweud ein bod ni eisiau hynny,” meddai.

“Beth yw’r pwynt ymgynghori os nad ydym yn gwrando ar farn y cyhoedd?”

Bydd adroddiad ffurfiol yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor trwyddedu nesaf, yn ogystal ag i’r pwyllgor craffu.