Dod ynghyd yn Llanddeiniol

Twf yn y cyfleoedd i gymdeithasu yn y pentref

Enfys Medi
gan Enfys Medi
236038451_1148804445607643

BBQ a chymdeithasu

235522522_1052071308530755

Mynd ar daith gerdded

Ni heb fod yn segur yn Llanddeiniol yn ystod y Pandemig – mae’r gweithgarwch wedi parhau OND os gwrs rhaid oedd glynu at reolau COVID a phrin oedd y cyfle i ddod at ein gilydd wyneb yn wyneb.

Penwythnos diwethaf cynhaliwyd taith gerdded ac yna BBQ i ddilyn. Galle’r tywydd ddim di bod yn wath rhwng 5.30pm a 6.30pm dydd Sadwrn – daeth glaw mawr! Lwcus bod pabell gyda ni i allu cysgodi a choginio’r byrgyrs! Ta beth, roedd hi mor braf bod pobl wedi troi allan a dod ynghyd i weld ei gilydd.

Mae’r fideo ni’n rhannu yn chware ar y dywediad Saesneg ’many hands make light work’ ond jiw ’many strimmers makes light work’ odd hi nos Lun. Gorchwyl cymunedol yw torri’r fynwent yn Llanddeiniol a daeth criw da ynghyd i orffen y gwaith mewn prin o amser. Ac yna joio clonc, diod a phaced o greision ar ôl beni’r gwaith!

Ni’n edrych ymlaen nawr at drefnu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol yn y dyfodol agos!