Ymgyrch codi arian Cylch Glan y Môr, Llanrhystud 

Dathlu 50 Mudiad Meithrin gyda thaith gerdded

Enfys Medi
gan Enfys Medi
Y Criw Cerdded

Nia, Mandy, Sharon ac Angharad – heb anghofio Dewin a Doti!

DewinaDoti

Dewin a Doti yn joio’r golygfeydd

Golygfeydd

Agosau at Lanrhystud

I ddathlu pen-blwydd y Mudiad Meithrin yn 50 oed, roedd aelodau o staff a phwyllgor Cylch Meithrin Glan y Môr, Llanrhystud am wneud rhywbeth i nodi’r achlysur ac i godi arian tuag at ein Cylch. Felly, ar ddydd Sul, 11eg o Orffennaf cerddodd Miss Angharad (arweinydd) Miss Sharon (cynorthwyydd) Mandy (trysorydd) a Nia (cadeirydd) gyda chwmni Dewin a Doti o brif swyddfa’r Mudiad Meithrin yn Aberystwyth ar hyd yr arfordir i Lanrhystud ac yna drwy’r pentref draw i’r Cylch. Roedd yn wâc brydferth gyda golygfeydd godidog dros ben.

Er gwaetha’r glaw, mi wnaethom fwynhau’r sialens ac yn falch ein bod wedi ei gwblhau ac wedi llwyddo i godi dros £500 (hyd yn hyn) i Gylch Glan y Môr, Llanrhystud.

Os yr ydych am gyfrannu, dilynwch y linc isod.

https://www.justgiving.com/crowdfunding/cylch-meithrin-glanymor?fbclid=IwAR0fe2t1HH5Z7ALSvBKcsU1GUowy7iCedqLpQuNJJaDKcfvnVL6oZhbAweg

(Diolch i Nia am gyfrannu’r stori)