Ydi chi wedi gweld pobl allan yn eich ardal chi yn casglu sbwriel yn ddiweddar? Mae tipyn o weithgarwch wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf wrth i drigolion fynd ati i gymhennu eu milltir sgwâr. Gellir gweld cofnod o’r ymgyrch ar dudalen facebook ‘Caru Aber’ sef grŵp a sefydlwyd i wneud Aberystwyth yn le brafiach i bobl leol ac ymwelwyr. Ond mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi ymestyn tu hwnt i’r dref i bentrefi ar draws ardal Bro Aber.
Mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr yn ffantastig. Braf iawn yw gweld effaith bositif cyd-weithio a rhannu syniadau wrth anelu at nod cyffredin. Gwelwyd nifer o grwpiau ac unigolion allan yn casglu sbwriel yn ogystal â chanlyniadau da wrth gyfathrebu, ynglŷn a materion penodol yn ymwneud a sbwriel, gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Lansiwyd ymgyrch bosteri gan ‘Caru Aber’ yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Y nod yw annog pobl i waredu eu sbwriel yn gyfrifol. Hyfryd iawn yw gweld pobl yn gwirfoddoli i gasglu ond brafiach byth byddai addysgu’n llwyddiannus er mwyn atal y sbwriel rhag ymddangos yn y lle cyntaf.
Dywedodd Jeff Jones o’r grŵp ‘Caru Aber’,
“Sefydlwyd Caru Aber i wella Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos gan wneud ein tref yn le brafiach i fyw. Rydym yn annog ein haelodau i wirfoddoli eu hamser i gasglu sbwriel, chwynnu neu arddio fel ein bod ni gyd yn gallu elwa a chadw Aberystwyth yn lle sbesial. Dilynwch ‘Caru Aber’ am ddiweddariadau ar ein prosiectau cyfredol a’r rhai sydd ar y gweill. #carublechinbyw’
Ddydd Sul yma 9 Mai cynhelir digwyddiad Traethau Taclus a bydd grwpiau allan yn Borth ac ar draeth Tanybwlch yn Aberystwyth. Os hoffech wirfoddoli, ewch draw i’r dudalen facebook i wybod mwy am y trefniadau.
Yn yr oriel luniau gwelir casgliad o luniau sy’n dangos rhai o’r grwpiau sydd wedi bod allan yn yr ardal yn ddiweddar. Mae llu o unigolion a grwpiau eraill hefyd wedi cyfrannu at yr achos a gwelir lluniau o’r pentyrrau o fagiau sbwriel sydd wedi eu casglu yn ymddangos yn rheolaidd ar y dudalen.