Wythnos Ryngwladol yr Wybren Dywyll

Edrychwch i fyny a syllwch ar y sêr

Enfys Medi
gan Enfys Medi
Y Bwa, Cwmystwyth

Yr wybren yn ei llawn ogoniant uwchben y Bwa, Cwmystwyth

Wyddoch chi fod hi’n wythnos ryngwladol yr wybren dywyll? Mae’n gyfle i ddarganfod y nos a’r rhyfeddodau sydd i’w gweld wedi iddi dywyllu.

Rydym yn ffodus yn ardal BroAber ein bod ar gyrion Mynyddoedd y Cambrian ac o fewn tafliad carreg i gyrraedd lleoliadau a llygredd golau isel. Golyga hyn fod gennym fynediad i rai o’r safleoedd gorau ar gyfer syllu ar y sêr gan fod yr wybren yma gyda’r mwyaf tywyll yn Ewrop.

Ar ffin ddwyreiniol Bro Aber mae Y Bwa, Cwmystwyth yn un o’r lleoliadau a argymhellir fel safle darganfod yr Wybren Dywyll. Gallwch ddarganfod mwy yng nghanllaw Darganfod yr Wybren Dywyll Mynyddoedd Cambrian.

Mae adnoddau ar gael ar wefan Mynyddoedd Cambrian https://www.thecambrianmountains.co.uk/discover-dark-skies

Defnyddiwch wefan https://www.adventuresmart.uk/wales/ i ddarganfod mwy am syllu ar y sêr yn ddiogel.

Beth am wneud rhywbeth gwahanol ar ddiwedd gwyliau’r Pasg a mynd am allan i syllu ar y sêr?

1 sylw

Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Dyna lun hyfryd. Diolch am y wybodaeth a’r linciau.

Mae’r sylwadau wedi cau.