Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021

Beth am gymryd rhan yn Wythnos y Robotiaid? Pecyn i’r teulu, cwis, darlithoedd a sesiynau ar gael

I ddathlu Wythnos Roboteg y Deyrnas Unedig (19eg i’r 26ain o Fehefin), mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal. Yn Aberystwyth, oherwydd cyfyngiadau COVID, nid oedd modd ei gynnal yn y bandstand fel blynyddoedd blaenorol, ond mae rhaglen lawn o weithgareddau am yr wythnos. Symudwyd gweithgareddau dydd Sadwrn i gampws Penglais a hynny yn yr awyr agored.

Gellir dod o hyd i restr lawn o’r digwyddiadau ar y linc yma ond dyma amlinelliad: –

  • Dydd Sadwrn – Labtraeth (wedi ei adleoli i gampws Penglais)
  • Dydd Llun – Sgwrs gyhoeddus BCS Canolbarth Cymru
  • Dydd Mawrth – Gweithdy Microbit i ddechreuwyr (dechrau am 4.30 y prynhawn)
  • Dydd Mercher -Gweithdy TinkerCAD i adeiladu tai clyfar (dechrau am 4.30 y prynhawn)
  • Dydd Iau – Gweithdy raglennu robot canolradd (dechrau am 4.30 y prynhawn)
  • Dydd Gwener -Sgwrs gyhoeddus BCS Canolbarth Cymru. “A oes angen dôs o gyfrifoldeb cymdeithasol ar Weddnewidiad Digidol?” gan Dr Ian Harris

Pwy sydd yn rhedeg Wythnos Roboteg Aberystwyth?

Prifysgol Aberystwyth sydd yn rhedeg yr wythnos, a hynny i ddenu gwyddonwyr y dyfodol, yn ogystal â rhoi cyfle i’r rhai a diddordeb yn y maes i glywed am ddatblygiadau newydd. Cefnogir Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021 gan Rwydwaith UK-RAS a BCS Y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth.

Dywedodd trefnydd Wythnos Roboteg Aberystwyth, Dr Patricia Shaw:

“Mae robotiaid yn rhan gynyddol o fywyd bob dydd, ac felly mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn ar gyfer codi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diddordeb yn yr ymchwil a’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae’r dyfodol yn dibynnu ar blant yn datblygu’r sgiliau i adeiladu a rhaglennu robotiaid i allu cwblhau ystod eang o dasgau, felly mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos wedi’i chynllunio i ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a gallu.”

Beth sydd ar gael?

Mae hefyd llyfr a gweithgareddau i’r teulu ar gael ar y wefan, yn ogystal â chystadleuaeth sydd yn cau ar ddydd Gwener y 25ain am 2 o’r gloch

Mae fideo a thaflen waith newydd wedi’u lansio sy’n esbonio sut y llwyddodd pysgodyn roboteg i  hunanbweru a chyrraedd y rhan ddyfnaf y Môr Tawel y Ffos Mariana.

Rhywbeth at ddant pawb. Ymunwch.