Wythnos ym myd Pêl-droed!

Gwynebu Gareth Bale, ymuno â Stoke ac ailymuno fel rheolwr Aber. Roedd sawl stori ddiddorol wythnos diwethaf.

gan Gruffudd Huw

Dydd Sul diwethaf (10/01/2021) gwelwyd “hyd a lledrith” Cwpan FA Lloegr ar ei orau. Roedd Marine AFC o’r Northern Premier League Division One North West yn chwarae Tottenham Hotspur o Uwchgynghrair Lloegr. I roi hyn mewn persbectif, roedd Spurs 160 safle yn uwch ym mhyramid pêl-droed Lloegr.

Felly pam fod hyn yn gysylltiedig â gogledd Ceredigion? Wel, roedd Adam Hughes (cyn-chwaraewr Aberystwyth) ac Alan Morgan (cyn-reolwr Aber) yn rhan o’r digwyddiad hanesyddol. Cafodd Hughes gyfle i ddechrau’r gêm ac roedd Morgan yn is-reolwr y clwb.

Roedd y gêm yn cael ei chwarae yn stadiwm Marine sydd wedi’i amgylchynu gan dai. Mae gan y stadiwm lai o seddi na Choedlan y Parc, dim ond 389 o’i gymharu ag oddeutu mil yng Nghoedlan y Parc! Roedd cefnogwyr Marine yn gallu gwylio o’u cartrefi heb ddefnyddio ysgol na bws deulawr!

 

Newid clwb

Wedi cyfnod llewyrchus ar fenthyg yn Luton, mae cyn-chwaraewr Academi Aberystwyth, Rhys Norrington-Davies, wedi ymuno â Soke ar fenthyg o Sheffield United. Mi fydd Rhys yn ymuno â chyd-Gymry fel Joe Allen, Rabbi Matondo a James Chester.

Cynghreiriau JD Cymru

Ar yr 21ain o Ragfyr 2020, cyhoeddodd Aberystwyth fod Gavin Allen wedi ymddiswyddo ar ôl rhediad gwael ac Aber ar waelod y gynghrair. Yn wreiddiol, roedd yr is-reolwr Antonio Corbisiero i fod i gymryd yr awenau ond nawr mi fydd Allen yn aros tan i’r gynghrair ailddechrau ym mis Chwefror (o bosib). Cyfnod ansicr ond mae ychydig o newyddion da. Bydd Connor Roberts yn aros ar fenthyg gyda’r clwb tan ddiwedd y tymor ac mi fydd Jon “Y Cigydd” Owen yn dychwelyd i’r clwb o Borthmadog.

Yn anffodus cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fydd timau fel Aberystwyth a Penrhyncoch yn cael chwarae eto yng Nghynghrair Cymru premier JD a JD Cymru North tan o leiaf mis Chwefror.