Mae dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am grantiau gan Gyngor Tref Aberystwyth ar y 1af o Ebrill 2021 felly dylai mudiadau gwirfoddol sydd yn gweithio yn Aberystwyth wneud ceisiadau.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais drwy ddilyn y linc yma.
Uchafswm y gellir ymgeisio amdano yw £5,000, ac fe fydd ceisiadau yn cael eu hystyried am gymorth ariannol, tuag at brosiect neu weithgaredd penodol, gan gymdeithasau cymunedol, diwylliannol, addysgol, chwaraeon a mudiadau elusennol, sy’n anfasnachol a gydag aelodaeth a maes gweithgaredd wedi’i leoli o fewn ffin Cyngor Tref Aberystwyth.
Mae’r cynllun yn darparu grantiau ar gyfer sefydliadau newydd yn ogystal â grantiau i sefydliadau sy’n bodoli eisoes.
Dywedodd Steve Davies: –
Mae’r grantiau yn ffordd bwysig i ni fel Cyngor Tref i gefnogi’r sector wirfoddol sydd yn rhoi cymaint o gyfraniad i’n cymunedau.
Gellir gweld rhestr o’r rhai fu yn llwyddiannus yn 2020 drwy ddilyn y linc yma.