Y Wal Werdd yn Dathlu

Aberystwyth 1 – 0 Y Seintiau Newydd 09/11/2021

gan Gruffudd Huw
Aber yn Dathlu 9/11/2021
Zabret yn gadarn yn y gôl 9/11/2021

Zabret yn gadarn yn y gôl

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cafodd Aber gêm gyfartal dwy gôl yr un ar Goedlan y Parc yn erbyn y Seintiau Newydd. Mawr oedd y dathlu. Diolch i gôl gan Harry Franklin cafodd Aber gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Y Barri dydd Sadwrn diwethaf. Rwy’n siŵr y byddai’r cefnogwyr Aber wedi bod yn hapus i gael gêm gyfartal arall a phwynt gwerthfawr yn erbyn Y Seintiau Newydd neithiwr – tîm oedd heb golli gêm yn y gynghrair y tymor yma. Ond nid da lle gellir gwell!

A does dim yn well nag ennill yn erbyn y tîm ar y brig sydd â chwaraewyr llawn-amser. Cafwyd noson i’w chofio ar Goedlan y Parc wrth i gôl hwyr gan Jon Owen gipio tri -phwynt i Aber a hynny gyda nifer o chwaraewyr yn chwarae mewn safleoedd anghyfarwydd a heb chwaraewyr fel Louis Bradford, Jack Rimmer a Rhys Davies.

Ar noson ddiflas gyda glaw cyson doedd dim disgwyl gwledd o bêl-droed atyniadol ymosodol. Roedd yn noson i dorchi llewys a brwydro’n galed. A dyna a gafwyd gan bob un o chwaraewyr Aber o’r dechrau i’r diwedd.

Fel y disgwyl, Y Seintiau Newydd oedd yn rheoli’r meddiant yn yr hanner cyntaf. Ond er yr holl feddiant, prin oedd y cyfleon clir i’r Seintiau. Yn wir daeth y cyfle gorau i Aber wrth iddynt wrthymosod yn effeithiol. Ar ôl 29 munud, croeswyd y bêl o’r asgell chwith tuag at y postyn pellaf at Jon Owen. Tarodd Owen y bêl ar y foli o ongl anodd ond hedfanodd dros y trawsbren. Dwy funud yn ddiweddarach croesodd Jonathan Evans y bêl ar draws geg y gôl ond roedd neb yno i’w ergydio i gefn yr rhwyd.

Wedi’r rhybudd yma, fe ddechreuodd y Seintiau ymosod yn fwy ffyrnig ac wedi 36 munud, peniodd Robles dros y trawsbren o ymyl y cwrt 6. Er hyn, roedd Aber yn dal i wrthymosod yn effeithiol gyda Harry Franklin yn cael cyfle ar ôl rhediad da a throi’n feistrolgar wedi 41 munud. Yn anffodus arbedodd Harrison yng ngôl y Seintiau’n hawdd.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar yr hanner ac yn sicr Aber oedd yr hapusaf o’r ddau dîm gyda’r sgôr.

Cafwyd dechreuad ffrwydrol i’r ail hanner gydag Aber yn hawlio cic o’r smotyn am lawio ar ôl 52 munud ond doedd dim diddordeb gan y dyfarnwr. Roedd yr ymosod gan y ddau dîm yn ddi-baid. Dwy funud yn ddiweddarach dyma Danny Davies yn ergydio heibio’r postyn.

Bu rhaid i amddiffyn Aber frwydro’n galed wedi’r awr gyda’r ymwelwyr yn dechrau colli’u hamynedd (a chael ambell gerdyn melyn) ac yn ymosod yn gyson, ond arhosodd y wal werdd yn gadarn!

Gyda’r sail amddiffynnol gadarn, roedd Aber wastad yn edrych yn beryglus yn gwrthymosod gyda Jon Owen a Jonathan Evans yn cyd-weithio’n wych.

Gyda 5 munud yn weddill o’r 90, rhyng-gipiodd Sam Phillips y bêl ar y llinell hanner o bas flêr gan yr ymwelwyr. Rhedodd i lawr yr asgell dde a groesodd i ochr y cwrt ble roedd Jon Owen wedi amseru’i rediad yn berffaith gan guro’r ddau amddiffynnwr canol. Rheolodd Owen y bêl yn gyfforddus cyn pasio’r bêl yn hamddenol heibio Harrison i’r cornel chwith. Roedd y sŵn yn Eisteddle Dias yn fyddarol gyda chynlleied o amser ar ôl, roedd gobaith i gipio’r tri phwynt!

Roedd yr amddiffyn yn anhygoel yn y munudau olaf gyda phawb yn ymdrechu 100% gan benio, daclo neu rwystro’r bêl. Daeth rhyddhad enfawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr wrth i’r dyfarnwr chwythu’i chwiban a dod â’r gêm i ben! Roedd Aber wedi llwyddo i ddod â rhediad diguro’r Seintiau i ben a sicrhau’u buddugoliaeth gyntaf mewn tair gêm gynghrair.

Yn fy marn i, Jon Owen oedd seren y gêm i Aber er bod pob un o chwaraewyr y tîm cartref wedi chwarae’n wych. Roedd Owen yn arbennig yn dal y bêl i fyny a chwarae’r bêl yn grefftus i’r asgellwyr, ond yn amlwg y gôl oedd y peth pwysicaf!

Am gêm i Radio Aber ddewis, mewn cydweithrediad â Cered, fel ei darllediad byw Cymraeg cyntaf o Goedlan y Parc. Rhagor to!

Saib haeddiannol nawr i chwaraewyr Aber tan y gêm nesaf oddi cartref i Met Caerdydd ar nos Wener, Tachwedd 19.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.