Waite a Watts yn ‘Whalu Rhediad Aber

Aberystwyth 0 – 3 Pen-y-bont 22/10/2021

gan Gruffudd Huw
Franklin a Thorne yn ymosod Abersywtyth vs Penybont 22/10/2021
Rhys Davies yn ymosod Aberystwyth vs Penybont 22/10/2021

Rhys Davies ar fin croesi’r bêl

Jack Rimmer Aberystwyth vs Penybont 22/10/2021

Jack Rimmer yn cymryd cic rydd yn hwyr yn y gêm

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Aberystwyth vs Penybont 22/10/2021

Clybiau’r JD Cymru Premier yn cefnogi ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Dros yr wythnos a hanner diwethaf, gwelwyd dau ganlyniad campus i Aberystwyth yn y gogledd ddwyrain. Ar ddydd Mercher y 13eg o Hydref, enillodd Aber yn erbyn y Derwyddon Cefn – tri phwynt hanfodol yn y frwydr ar waelod tabl JD Cymru Premier diolch i gôl gan Lee Jenkins! Yna, ddydd Sadwrn diwethaf, enillodd Aber unwaith eto gan guro Saltney ar giciau o’r smotyn 5-4 i gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.

Byddai wedi bod yn wych felly i barhau â’r rhediad llwyddiannus hyn wrth i Ben-y-bont ymweld â Choedlan y Parc ar nos Wener. Yn ychwanegol, dim ond dau bwynt oedd yn gwahanu’r timau cyn y gêm. Felly fyddai buddugoliaeth arall i Aber yn golygu dringo uwchben yr ymwelwyr yn y tabl. Ond yn anffodus daeth y rhediad i ben wrth i’r ymwelwyr rwydo tair gwaith ar y noson ac ymestyn y bwlch rhwng y ddau dîm yn y tabl.

Pen-y-bont oedd yn rheoli’r meddiant yn gynnar yn y gêm, ond daeth y cyfleoedd gorau i’r tîm cartref. Fe gafodd Jonathan Evans dau gyfle o fewn y chwarter awr gyntaf gyda chic dros ei ben yn taro braich Raul Correia ac ergyd o’r llinell 6 llath yn cael ei flocio’n arwrol gan Jefferies.

Er gwaethaf cyfleoedd cynnar Aber, yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf. Ar ôl 16 munud o chwarae, lansiwyd y bêl i fyny’r cae gan Morris, golwr yr ymwelwyr. Gadawyd y bêl i fownsio gan amddiffyn Aber gan roi cyfle i Watts benio’r bêl i Waite a oedd yn rhydd yn y cwrt cosbi. Cafodd Waite blaen ei droed i’r bêl gan godi’r bêl dros Zabret.

Roedd Aber yn sicr dal yn y gêm a bu bron i Raul Correia ddod â’r sgôr yn gyfartal wrth iddo benio’n llydan o groesiad gan Jack Rimmer ar ôl 31 munud. Ond, dim ond dwy funud yn ddiweddarach, llwyddodd yr ymwelwyr i gymryd mantais o gamgymeriad gan Aber yn y cefn a dyblu’i mantais. Pasiodd Bradford y bêl yn ôl i Zabret yndilyn cornel i Aber ac fe geisiodd Zabret i glirio’r bêl i lawr y cae. Yn anffodus, blociwyd yr ymdrech gan Watts ac fe roliodd y bêl heibio Zabret ac i mewn i’r rhwyd. Daeth un cyfle arall i Aber cyn yr hanner wrth i Bradford benio’n llydan ar ôl croesiad gwych gan Rimmer o gornel ar ôl 44 munud.

Dechreuodd yr ail hanner yn addawol i Aber. Enillwyd cornel arall ar ôl 48 munud ac unwaith eto Bradford oedd y targed. Croesodd Jonathan Evans yn dda ond peniodd Bradford mymryn dros y trawsbren.

Unwaith eto, llwyddodd yr ymwelwyr i sgorio bron yn syth ar ôl cyfle da i Aber. Dim ond munud ar ôl cyfle Bradford, sgoriodd Waite ei ail gan gymryd mantais o bêl rydd yn nhreian olaf y cae. Gwelwyd peniad esgeulus gan Aber yn yr amddiffyn ac fe beniodd Watts y bêl drwyddo i Waite ac fe osododd y bêl yng nghefn y rhwyd. 3-0 i Ben-y-bont.

Gyda dros 40 munud o’r gêm ar ôl, dechreuodd yr ymwelwyr i amddiffyn yn ddwfn. Er gwaethaf yr amddiffyn cryf, roedd Aber yn dal i bwyso a chreu cyfleoedd. Enillodd Aber sawl gic rydd cyn diwedd y gêm ond roedd yn amlwg fod Pen-y-bont yn dîm mwy corfforol ac yn ennill bron pob peniad yn y cwrt cosbi.

Gyda 90+3 munud ar oriawr y dyfarnwr, enillodd Aber gic rydd mewn safle addawol iawn. Gosododd Matty Jones y bêl ar gornel chwith y cwrt mewn gobaith y byddai’n gallu sgorio gôl gysur i’r tîm cartref. Yn anffodus, hedfanodd y bêl yn bell uwchben y trawsbren.  Roedd Aber wedi dod mor agos, ond eto mor bell o sgorio.

O fewn wythnos, mi fydd Aber yn ôl ar Goedlan y Parc yn chwarae gêm anodd arall, y tro yma yn erbyn y Fflint sy’n ail yn y tabl.