Red Vintage

Siop fach goch newydd Aberystwyth o grefftau unigryw ac amrywiol

Nia Ann Jenkins
gan Nia Ann Jenkins

Mae Sarah Howkins wedi agor siop newydd “Red Vintage” , rhif 4 Eastgate (Stryd y Porth Bach) a dyma hanes y siop yn ei geiriau hi: –

Ar Ddydd Gwener y Groglith 2021, derbyniais allweddi i’r siop fach goch, fel mae erbyn hyn yn cael ei adnabod ar Eastgate, Aberystwyth.

Mi enwais y siop yn ‘Red Vintage’, sef y ddau air cyntaf o’m busnes, Red Vintage Lighting. Dwy’n creu goleuadau allan o wydr hynafol a chysgodion golau a fu unwaith yn brintiau defnydd.

Roedd wastad yn syniad, neu’n hytrach, yn freuddwyd yn fy mhen, i agor siop lle byddai pobl leol, myfyrwyr a thwristiaid Aberystwyth a Cheredigion yn gallu dod i ymweld, siopa a chael sgwrs a diod!

Felly, yn yr wythnosau canlynol tan Basg 2021, cymerais y naid, wrth wrando ar fy nghalon a dechrau rhoi si fy mod yn chwilio am siop yn Aber. O fewn munudau, derbyniais nifer o negeseuon o drigolion Aberystwyth, gan fy rhoi mewn cyswllt a pherchennog rhif 4 Eastgate (Stryd y Porth Bach). Rwyf wastad wedi bod yn hoff iawn o’r stryd gan fod yna awyrgylch wych yno ac yn ardal dda i fusnesau bach annibynnol fel ni. Rydym yn gymdogion i Chives, ac un drws lan o Medina (yr hen Treehouse), sydd yn berffaith i ni.

Mae cymuned Aberystwyth yn un cryf ac yn hwb o gymaint o dalent leol o fewn celfyddydau, boed yn weledol neu’n perfformwyr. Dyma beth oeddwn eisiau adlewyrchu drwy’r siop – dod a llu o artistiaid lleol at ei gilydd a rhoi llwyfan iddynt werthu ynghyd a’n cynnyrch ni ar sail siop gorfforol yn hytrach nag ‘ar-lein’.

Artistiad Lleol

‘Roedd yn bwysig i mi hyrwyddo artistiaid lleol yn unig – rhai sydd yn byw yng Ngheredigion neu yn Aber ei hun. Dwi hefyd yn eiriolwr brwd o ‘uwchgylchu’ (upcycling), ac yn gwneud defnydd o ddarnau gwydr fel fâsis a mowldiau jeli i greu goleuadau yn fy ngwaith fy hun. Dwy’n hoffi’r syniad o roi ail fywyd i wrthrych tu hwnt i’w bwrpas gwreiddiol. Rydym yn byw mewn oes blastig ac yn genedl sy’n gwaredu llawer, yn lle hyn, beth am ail-ddefnyddio a chreu rhywbeth prydferth eto. Hyd yma, mae ’na unarddeg o artistiaid yn ymddangos eu gwaith yn y siop, gan gynnwys gwneuthurwyr printio; dylunwyr gemwaith; gwaith pren; tecstilau; cerameg; golau; gwehyddion ac uwch-gylchwyr.

Mae ’na rywbeth at ddant pawb a hefyd yn fforddiadwy, sydd yn elfen bwysig i mi ynghyd a bod y gwaith o safon uchel. Caiff eich eitem ddim i’w rhoi mewn bag plastig! Dwy am i’r siop fod yn rhan bwysig o’r gymuned, a’r cynllun nesa bydd i drefnu gweithdai, o dan arweiniad ein hartistiaid, gan gynnig ein profiad a chyngor pan fyddwn yn medru. Mae celf yn cynnig gymaint, ac mae’n ffordd o ddod a ni nol at ein gilydd ar ôl cyfnod o fod ar wahân am mor hir.

Cefnogwch
Felly, dyddiau cynnar yw hi i’r siop, ac ond wedi bod ar agor ers rhai wythnosau, a hynny mewn amser lle bod cymaint o fusnesau yn cau eu drysau am y tro olaf yn Aberystwyth. Dwi’n benderfynol y bydd y siop yn un llwyddiannus. Rwy’n gyffrous am yr artistiaid newydd fydd yn arddangos yma yn y dyfodol agos.

Dewch i’n gweld yn Red Vintage, am oleuadau ac addurniadau unigryw, neu hyd yn oed am sgwrs yn unig.