Tymor gwahanol iawn yn 2020-21!

Cipolwg yn ôl ar dymor CPD Aberystwyth

gan Gruffudd Huw
DSC_0770

Gan ein bod ar bigau’r drain yn edrych ymlaen at yr Ewros, beth am fodloni’ch “fix” pêl-droed ac edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau tymor CPD Aberystwyth!

1. Chwaraewr gorau – Connor Roberts

Daeth Roberts yn ôl i Goedlan y Parc am ail dymor yn olynol ar fenthyg o’r Seintiau Newydd. Roedd ei brofiad, ei sgiliau arwain ac arbediadau gwych yn help enfawr i’r tîm ennill gemau allweddol. Gellir gweld rhai o’i arbediadau gorau ar safle Sgorio S4C.

2. Chwaraewr ifanc gorau – Lee Jenkins

Bu’r amddiffynnwr lleol yn rhan annatod o dîm Gavin Allen, gan chwarae 28 gêm yn ystod tymor 2020/21 a chapteinio’r tîm ar un achlysur. Mae Lee yn datblygu i fod yn amddiffynnwr modern a thalentog, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.

3. Y gêm orau – Aberystwyth 2-2 Seintiau Newydd

Cyn y gêm yma, doedd y Seintiau ddim wedi colli pwynt nac wedi ildio gôl yn ystod y tymor. Gwelwyd ymdrech arwrol gan Aber i frwydro o fod 1-0 i lawr i fod ar y blaen wedi 67 munud o chwarae. Bu bron i Aber ennill, ond sgoriodd y Seintiau 7 munud cyn diwedd y gêm. Er iddyn nhw ildio’r tri phwynt, roedd yn berfformiad arbennig gan Aber, ac roedd gêm gyfartal yn ganlyniad gwych iddynt.

4. Trosglwyddiad / chwaraewr newydd gorau – Harry Franklin

Ymunodd Franklin ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo ym mis Ionawr. Ers hynny, mae wedi sgorio 4 gôl mewn 11 gêm, a gwelwyd sawl perfformiad gwych ganddo yng nghanol y cae ac ar yr asgell. Roedd Franklin yn ffactor bwysig wrth i Aber ddringo o waelod y tabl yn ail hanner y tymor gyda’i goliau a’i chwarae creadigol.

5. Rhyddhad mwyaf y tymor – aros lan!

Ar un adeg roedd Aber ar waelod yr Uwch-gynghrair. Roedd sôn y byddai Cynghrair Gogledd / De Cymru JD yn ailddechrau, gyda’r posibilrwydd o ddyrchafiad i’r Uwch-gynghrair. Felly roedd peryg gwirioneddol y byddai Aber yn disgyn o’r Uwch-gynghrair am y tro cyntaf. Mawr oedd rhyddhad cefnogwyr Aber pan gyhoeddwyd ym mis Ebrill na fyddai neb yn disgyn o’r Uwch-gynghrair ar ddiwedd y tymor. Ond, chwarae teg i Aber, ar ôl rhediad da fe orffennon nhw’r tu allan i’r safleoedd disgyn, beth bynnag.

Cyn gorffen, pob lwc i Rhys Norrington-Davies yn yr Ewros, a hefyd i Antonio Corbisiero ar ei benodiad fel rheolwr tîm cyntaf Aberystwyth.