Tudalen Ystadegau Newydd COVID-19 Ceredigion

Tudalen newydd ar wefan Coronafirws Cymru gydag ystadegau penodol i Geredigion

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton
MapCered

Map o achosion ym mhob MSOA.

Cered1

Top y wefan.

Ers mis Hydref, mae achosion COVID-19 yng Ngheredigion wedi cynyddu yn gyflym ofnadwy. Gan fod y sefyllfa yn yr ardal wedi gwaethygu dros y gaeaf, roedd modd creu gwefan gyda data mwy penodol i Geredigion.

Ar hyn o bryd, mae’r tudalen yn cynnwys data achosion, profion a marwolaethau, ond hefyd y data ar gyfer ardaloedd penodol gyda tua 8,000 o bobl. Gallwch weld nifer yr achosion sy’n lleol i chi, ac mae ffigyrau’r gyfradd 7-diwrnod ar gael hefyd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd mwy o ddata am frechu a marwolaethau yn cael eu hychwanegu at y wefan, yn ogystal ag unrhyw ddata arall fydd ar gael yn gyhoeddus.

Gallwch gyrchu’r wefan yma: https://coronaviruscymru.wales/ceredigion. Bydd y ffigyrau achosion/profion yn cael eu diweddaru bob prynhawn, y marwolaethau bob dydd Mawrth a’r data brechu bob dydd Mercher, gan ddechrau heddiw (27/01).

Rwy’n gobeithio y bydd y wefan yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i chi.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.