Diolch i ti Lloyd
Ers mis Hydref, mae achosion COVID-19 yng Ngheredigion wedi cynyddu yn gyflym ofnadwy. Gan fod y sefyllfa yn yr ardal wedi gwaethygu dros y gaeaf, roedd modd creu gwefan gyda data mwy penodol i Geredigion.
Ar hyn o bryd, mae’r tudalen yn cynnwys data achosion, profion a marwolaethau, ond hefyd y data ar gyfer ardaloedd penodol gyda tua 8,000 o bobl. Gallwch weld nifer yr achosion sy’n lleol i chi, ac mae ffigyrau’r gyfradd 7-diwrnod ar gael hefyd.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd mwy o ddata am frechu a marwolaethau yn cael eu hychwanegu at y wefan, yn ogystal ag unrhyw ddata arall fydd ar gael yn gyhoeddus.
Gallwch gyrchu’r wefan yma: https://coronaviruscymru.wales/ceredigion. Bydd y ffigyrau achosion/profion yn cael eu diweddaru bob prynhawn, y marwolaethau bob dydd Mawrth a’r data brechu bob dydd Mercher, gan ddechrau heddiw (27/01).
Rwy’n gobeithio y bydd y wefan yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i chi.