Trysor Tal-y-bont – Helfa Drysor y Pasg

Helfa Drysor ar droed Talybont

Steffan Rhys Nutting
gan Steffan Rhys Nutting

Helfa Drysor ar Droed Tal-y-bont

Agored i bawb!

Bydd y tîm buddugol yn ennill wy Pasg yr un!

Dyddiad cau: diwedd y dydd, 11/04/21

 

Wyt ti’n edrych am rywbeth i’w wneud dros wyliau’r Pasg? Y plant wedi diflasu’n barod?

Wyt ti’n ’nabod ardal Tal-y-bont?

Cer am daith o gwmpas y pentref gan drio ateb y cwestiynau am dy ardal di!

Dechreua o’r Neuadd Goffa a dilyn y cyfarwyddiadau a chliwiau ar hyd y pentref.

Clicia’r ddolen isod er mwyn cymryd rhan trwy roi dy atebion i mewn i’r wefan.

https://forms.gle/pjRMQnYvs4KyNUvr5

Paid â phoeni os nad wyt ti’n gwybod ambell ateb, galli di ei adael yn wag.

Cofia dracio dy daith i weld pa mor bell rwyt ti’n cerdded a dangos dy luniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod:

#BroAber360

#TrysorTalybont

 

Joia!

Trysor Tal-y-bont