Helfa Drysor ar Droed Tal-y-bont
Agored i bawb!
Bydd y tîm buddugol yn ennill wy Pasg yr un!
Dyddiad cau: diwedd y dydd, 11/04/21
Wyt ti’n edrych am rywbeth i’w wneud dros wyliau’r Pasg? Y plant wedi diflasu’n barod?
Wyt ti’n ’nabod ardal Tal-y-bont?
Cer am daith o gwmpas y pentref gan drio ateb y cwestiynau am dy ardal di!
Dechreua o’r Neuadd Goffa a dilyn y cyfarwyddiadau a chliwiau ar hyd y pentref.
Clicia’r ddolen isod er mwyn cymryd rhan trwy roi dy atebion i mewn i’r wefan.
https://forms.gle/pjRMQnYvs4KyNUvr5
Paid â phoeni os nad wyt ti’n gwybod ambell ateb, galli di ei adael yn wag.
Cofia dracio dy daith i weld pa mor bell rwyt ti’n cerdded a dangos dy luniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod:
#BroAber360
#TrysorTalybont
Joia!