Ma’ TRISANT ar WICIPEDIA!
Mae’n siŵr eich bod chi ambell dro yn gwylio rhaglen ar y teledu ac yn meddwl: “Tybed faint yw ei oed e neu hi?” Dim problem! Ffôn mas a gwglo ‘Wikipedia’, a chael yr ateb mewn eiliad. Defnyddiol tu hwnt, a does dim byd nad yw e’n ei wybod? Ara’ bach nawr! Falle’i fod e’n gwybod yr ateb i lawer o ffeithiau, ond dyw e ddim yn gwybod popeth … a chyn belled ag mae materion am Gymru yn y cwestiwn, wel mae ’na fylche.
Tybed faint ohonoch chi sy’n defnyddio’r fersiwn Cymraeg, sef Wicipedia gyda ‘C’? Oes, mae ’na fersiwn Cymraeg i ga’l ers 2003 – gydag erthygle yn Gymraeg yn naturiol. Ond, fe ges i siom y dydd o’r bla’n pan ddwedodd person adnabyddus ei fod e wedi gwglo i gael gwybodaeth am ‘Trisant’ … ac yna dweud nad oedd y lle yn bodoli … wel, dim ar Wicipedia ta beth! Dyna beth oedd ergyd – fy ardal enedigol ddim yn bodoli cyn belled â bod y Rhyngrwyd yn y cwestiwn !
Y gwirionedd yw bod yn rhaid i rywun greu tudalen yn y lle cyntaf, ac yna cyfrannu gwybodaeth. Doedd dim ond un ateb amdani – roedd rhaid i fi fynd ati i greu tudalen Wicipedia am ‘Trisant’. A dyna be wnes i. Doedd e ddim mor anodd â hynny.
Yn gyntaf, rhowch ‘Wicipedia’ i mewn ym mhorwr eich cyfrifiadur/ffôn, ac yna, ma’ rhaid i chi gofrestru os ydych chi am gyfrannu erthygl. Ma’ rhaid dewis Enw Defnyddiwr (math o ffugenw), ac yna dewis Cyfrinair. Wedyn, fe allwch chi ddechre sgwennu, a chofio arbed yr hyn chi wedi sgwennu ar ddiwedd y sesiwn, ac yna allgofnodi.
Mewn gwirionedd, roedd tomen o wybodaeth hanesyddol am Trisant ar hysbysfwrdd a osodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion rai blynyddoedd yn ôl. Mae ’na rai tebyg ym mhob pentre yng Ngheredigion, felly ma’ fe’n fan cychwyn da. Os ydych chi’n gyfarwydd ag ysgrifennu erthygle ar gyfer eich papur lleol, yna, fe fyddwch yn ddigon cartrefol. A dweud y gwir, pa ffordd well i groniclo hanesion ac arferion lleol. Unwaith ma’ tudalen yn ei lle, fe allwch chi ychwanegu ati, neu ddweud wrth gyfaill am gyfrannu gwybodaeth neu luniau.
Mae’n ddyddie cynnar, ac rydw i’n dysgu o hyd. Mae’n rhwydd gwneud camgymeriad ‘teipo’, felly ymhen rhai dyddie rwy’n ailymweld ac yn darllen y dudalen i weld a oes camgymeriad. Wedyn rydw i’n gwasgu ‘Golygu’ a mynd ati i gywiro. Ma’ tipyn o ganllawie i’ch cynorthwyo ar wefan Wicipedia. Fe allech chi sgwennu darn yn Word yn gyntaf, ac yna defnyddio rhaglen dda o’r enw Cysill ar-lein, sydd yn cywiro camgymeriadau sillafu neu ieithyddol. Yna gallwch gopïo eich darn i mewn i Wicipedia.
Os am gael cip, ewch i dudalen Trisant ar Wicipedia.
Aled Evans