Da iawn, Betsan, a llongyfarchiadau i bob un.
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2020 (rhwng y cyfnodau clo), bu dros ugain unigolyn yn cystadlu mewn cyfres o gystadlaethau Treialon Meithrin Cŵn Defaid Ceredigion, hynny yw, i gŵn ifanc o dan 3 oed, ac sydd heb ennill cystadleuaeth agored. Bu’r criw yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill pwyntiau, a’r pump â’r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y saith cystadleuaeth fyddai’n ffurfio tîm i gynrychioli Ceredigion yn nhreialon De Cymru. Bu’r criw yn cystadlu mewn sawl safle gwahanol fel bod eu cŵn yn medru dod i arfer â chystadlu mewn treialon. Roedd modd cystadlu mewn dau ddull gwahanol hefyd, sef y dull Cenedlaethol a dull De Cymru, ond pencampwyr y dull Cenedlaethol fyddai’n ffurfio’r tîm.
Dau i’w gwylio yn y treialon oedd yr hyfforddwyr ifanc, sef Ynyr Siencyn ac Andrew Davies. Daw Ynyr, 15, o Dalybont a bu’n cystadlu yng nghystadlaethau’r hyfforddwyr ifanc (dull Cenedlaethol a De Cymru) a nofis (dull De Cymru) gyda’i gi, Celt. Bu Andrew o Langeitho, sy’n iau nac Ynyr, yn cystadlu yn ei erbyn gyda’i gi, Mac. Daeth y ddau i’r brig sawl gwaith yn ystod y gyfres, ond Ynyr gipiodd y gwobrau yn y treialon terfynol.
Llongyfarchiadau i chi’ch dau am fentro!
Dewi Jenkins o Dalybont ddaeth i’r brig yn y prif gystadlaethau gyda’i gi, Clwyd Bob, a chipio teitl capten y tîm. Dyma enwau holl aelodau’r tîm-
1. Dewi Jenkins- Clwyd Bob
2. Elin Hope- Trefynor Lass
3. Daniel Rees- Bet
4. Irwel Evans- Mwnt Mac
5. Dewi Jenkins- Tyngraig Meg
Eilydd- Elin Hope- Malta Bill
Bydd y tîm hwn yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn 7 tîm o Dde Cymru, a bydd y 15 gorau yn cael eu dewis i gynrychioli tîm y De yn erbyn tîm y Gogledd.
Yn anffodus, nid oedd modd cynnal y treialon hyn cyn y Nadolig fel y cynlluniwyd, felly gobeithir eu cynnal o fis Mai ymlaen, yn ddibynnol ar ganllawiau Covid-19.
Pob hwyl i chi.