Tirlithriad yn cau rhan o’r llwybr

Diweddariad: Bellach mae Cyngor Ceredigion wedi cau rhan o’r llwybr a ddifrodwyd gan dirlithriad.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Arwydd ar gau - llwybr troed ger Camau Bach 1. Hawlfraint Huw Evans
Tirlithriad ger Camau Bach, Aberystwyth 2. Hawlfraint Huw Evans
Tirlithriad ger Camau Bach 3, Aberystwyth. Hawlfraint Huw Evans.

Hysbyswyd Cyngor Ceredigion yn gynnar bore Sadwrn fod tirlithriad wedi difrodi rhan o’r llwybr graddol oedd yn arwain at y bont dros y rheilffordd ger Ysgol Plascrug/Clwb Rygbi Aberystwyth. Digwyddodd y tirlithriad ar ddarn o’r llwybr tu cefn i Feithrinfa Camau Bach. Daeth y tirlithriad i stop cyn cyrraedd yr adeilad.

Ymatebodd staff y Cyngor ac yn dilyn asesiad caewyd y llwybr graddol (ar gyfer pobl nad oedd yn gallu defnyddio’r stepiau) oedd yn arwain at y bont ar y ddwy ochr. Fel y gwelir yn y lluniau ychwanegol, roedd y tirlithriad wedi tanseilio gweddill y rhan yma o’r llwybr ac roedd craciau pellach i’w gweld. Mae rhan yma o’r llwybr yn debygol o fod ar gau am beth amser.

Mae’n bwysig nodi fod y llwybrau sy’n arwain at y stepiau a’r bont yn dal ar agor ar y ddwy ochr.