Taith tractorau

Taith tractorau Ysgol Penrhyn-coch 2021

gan Bethan Evans

Bu bwrlwm mawr yn Ysgol Penrhyn-coch y dydd Gwener cyn y daith tractorau. Roedd disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael cyfle i ddod â’u tractorau i’r ysgol a mynd ar daith eu hunain er mwyn hysbysebu’r daith. Roedd y plant wrth eu bodd!

A dydd Sul, 19 Medi 2021, braf oedd cynnal y daith ei hun – Taith Tractorau Ysgol Penrhyn-coch. Wedi cyfnod hir o beidio â chynnal digwyddiadau cymunedol, roedd yn hyfryd iawn gallu cynnal digwyddiad cymunedol yn ddiogel yn yr awyr agored

Roedd y gefnogaeth gan drigolion a rhieni’r ysgol yn wych, â nifer fawr wedi dod i gefnogi. Roedd lluniaeth ysgafn ar gael – roliau bacwn blasus a digon o ddiodydd poeth i ddechrau’r diwrnod. Rhaid diolch i Lynwen (Garej Tŷ Mawr) a’r Gymdeithas Rhieni am drefnu hyn ac i Alun Trawsnant am lywio’r siwrnai!

Cafwyd cyffro mawr wrth i’r tractorau gychwyn ar eu taith – tua 28 ohonyn nhw. Roedd yn daith i’w chofio – y tywydd yn braf ac yn dangos Penrhyn-coch a’r cyffiniau ar eu gorau. Fe wnaeth pawb fwynhau’r daith yn fawr iawn.

Codwyd y swm ardderchog o £1617, swm arbennig iawn, ac mae’r ysgol yn ddiolchgar tu hwnt am yr holl gefnogaeth!