Am dro i Lyn Llygad Rheidol

Taith o gyrion Maesnant i Lyn Llygad Rheidol

gan Iestyn Hughes

Hyddgen a Hengwm

Mae’n 620 mlynedd i’r mis ers brwydr Hyddgen (pryd y trechodd mintai Owain Glyndŵr fyddin lawer iawn mwy brenin Lloegr).

Yn y llun rwyf yn sefyll ar y llwybr caled sy’n cychwyn o ffordd Nant-y-moch i gyfeiriad Maesnant (trac go wael mewn mannau – peidiwch â meddwl gyrru ar ei hyd). Llwybr i’r Bwrdd Dŵr fynd a dod i Lyn Llygad Rheidol, islaw Pumlumon Fach a Phumlumon Fawr yw’r trac, fe dybiaf.

Mae’n haws o lawer dilyn hwn at y llyn na dringo’r bryniau serth, corslyd, gan ei fod yn codi’n weddol araf, ar siâp hanner cylch tuag at y llyn mynyddig – tarddle afon Rheidol, afon sydd yn ei thro’n bwydo cronfa Nant-y-moch, ac yna orsaf drydan Cwmrheidol.

Y tu hwnt i’r llun, i lawr i’r chwith a thu ôl i mi, y mae Bryn y Beddau – lle maen nhw’n tybio bod cyrff byddin Lloegr wedi’u claddu. Y bryn mawr o’m blaen sy’n ymestyn i ffwrdd i’r dde, yw Banc Lluestnewydd. Mae nifer o olion hen luestai i’w canfod ar draws ardal eang o’r ucheldir yma.

Yn y dyffryn sy’n arwain i ffwrdd i’r dde y mae afon Hengwm, a’r afon sydd yn arwain i ffwrdd i’r dyffryn llydan ar y chwith yw afon Hyddgen (gyda Banc Llechwedd Mawr yn codi i’r chwith o’r afon). O dan y llechwedd ac i’r chwith o’r afon, y mae Cerrig Cyfamod Glyndŵr, ac ymhellach i ffwrdd y mae Hyddgen ei hun.

Gyferbyn, i’r dde o Hyddgen, ar ben un o’r bryniau, y mae Carn Hyddgen (Carn Gwilym). Os oes ganddoch chi sgrin fawr, efallai y byddwch yn gallu ei gweld yn sefyll fel rhyw gorn bach ar gopa’r bryn.

Y llynnoedd bach

Tu hwnt i’r llun, i lawr dros lethr serth lle mae’r ffordd yn dechrau troi i’r dde, a lle mae afon Hengwm yn troi i gyfeiriad Nant-y-moch, yn ôl y map, y mae maen hir – Pen Cor-maen – er na welais i’r maen, rhaid cyfaddef. Ar ddarn gwastad, cul o dir gerllaw’r ffordd i’r chwith, y mae tri llyn bach prydferth – y pella ohonynt yn adleisio enw’r maen hynafol, sef Llyn Pen Cor-maen. Ys gwn i beth yn union yr oedd y maen yn ei arwyddo?

Llyn Pen Cor-maen

Felly, er nad oes neb yn gwybod i sicrwydd union leoliad Brwydr Hyddgen, mae’n debygol iawn mai yn y dyffryn llydan, corsiog, ar hyd llwybr afon Hyddgen, a welwch yn y llun, y bu’r ymladd.

Plu’r gweunydd a Hyddgen yn y pellter

Ar hyn o bryd y mae aceri o blu’r gweunydd yn harddu’r daith, a does dim angen cerddoriaeth i ysgafnhau’r elltydd serth, gan fod cân yr ehedydd yn codi’r ysbryd i’r entrychion. Rhyfedd meddwl bod rhai wedi cyfeirio at Glyndŵr fel ‘yr ehedydd’.

A beth sydd ar ddiwedd y daith (wel, hanner ffordd, gan bod angen cerdded yr holl ffordd yn ôl!)?

Edrych i lawr ar Lyn Llygad Rheidol

Dyna fwynhau llwybr drwy dirwedd hanesyddol yn gymaint â thaith i fyny at lyn bach mynyddig – llwybrau neolithig, brwydrau mawr i geisio achub ein hunaniaeth, mwyngloddiau, chwareli, dulliau amaethu o’r oes o’r blaen, ymlaen at greu ynni adnewyddol o ddŵr croyw a nentydd y mynydd – a gorau oll, fod atgof o’r hanes hwnnw wedi’i gloriannu yn enwau hyfryd, cynhenid, y lle.

Marian yn mwynhau’r tawelwch a’r bywyd gwyllt

 

Teulu o wyddau Canada wedi ymgartrefu am y tro yng Nghymru fach

 

Murddun ger y llyn

 

Gwyfyn – yr Ymerawdwr! Roedd yn anferth!

 

Marwnad yr Ehedydd

Mi glywais fod yr ‘hedydd,
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geiriau,
Awn a gyrr o wŷr ac arfau,
I gyrchu corff yr ‘hedydd adre.