Tair gêm gartref i Aber yn ddiguro

Aberystwyth 1 – 1 Pen-y-bont 27/03/2021

gan Gruffudd Huw
Aberystwyth v Pen-y-bont
Penybont-5

Ble mae’r bêl?!

Roedd hi’n edrych yn addawol i Aberystwyth wrth iddynt baratoi i wynebu Pen-y-bont. Collodd yr ymwelwyr eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Fflint ganol wythnos. Felly, yn ogystal â cholli, doedd dim llawer o amser iddynt ymlacio cyn teithio i Goedlan y Parc. Er hyn, gyda Phen-y-bont yn 4ydd yn y tabl, ni fyddai hon yn gêm hawdd i Aber o bell ffordd.

Gêm agos oedd hi yn y diwedd gyda’r ddau dîm yn rhannu’r pwyntiau. Dyma’r drydedd gêm gartref yn ddiguro i Aber ers i’r Uwchgynghrair ail-gychwyn wedi’r cyfnod clo.

Cafodd Harry Franklin a Connor Roberts ddylanwad pwysig ar y gêm unwaith eto ac yn sicrhau eu lle fel rhai o chwaraewyr mwyaf dylanwadol y clwb. Gwelwyd digon o gyfleoedd i’r ddau dîm i ennill y gêm ond bu arbediadau gwych gan y ddau olwr i gadw’r sgôr yn gyfartal.

Bu’r 25ain munud cyntaf yn eithaf di-nod gyda’r naill dîm ddim yn cynhyrchu llawer o gyfleoedd. Daeth y cyfle gorau i’r ymwelwyr gydag ymosodwr Pen-y-bont, Snaith, yn saethu’r bêl yn syth at Connor Roberts o gornel y cwrt 6.

Ar ôl y cyfnod hwn, dechreuodd Aber chwarae yn llawer gwell gan ddechrau ymddangos fel y tîm cryfaf. Gwelwyd cyfle o gic rydd ar ôl 29 munud gyda Marc Williams yn penio’r bêl yn llydan ond roedd yn cam-sefyll beth bynnag. Tair munud yn ddiweddarach gwelwyd cyfle arall i Aber. Pasiodd Matty Jones y bêl i Jamie Reed ond arbedwyd ergyd isel Reed gan Morris yn y gôl i Ben-y-bont.

Daeth y cyfnod hwn i benllanw ar ôl 33 munud o chwarae. Pasiodd Williams y bêl dros amddiffyn yr ymwelwyr a derbyniodd Franklin y bas a charlamodd tuag at y gôl. Saethodd y bêl o ochr chwith y cwrt cosbi ar draws y golwr ac i gornel gwaelod de’r gôl. Franklin unwaith eto’n dangos ei dalent o flaen y gôl gan sgorio am yr ail gêm yn olynol.

Ar ôl 40 munud, roedd hi’n edrych fel petai’r ymwelwyr wedi sgorio. Methodd amddiffyn Aber glirio’r bêl a llwyddodd Snaith i gael y bêl yn y rhwyd. Diolch byth, cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei faner yn nodi fod yr ymosodwr yn camsefyll. Roedd Aber dal ar y blaen ar yr hanner.

Dechreuodd yr ail hanner yn gorfforol iawn. Roedd Pen-y-bont yn benderfynol o beidio colli unwaith eto. Amddiffyn oedd y nod i Aberystwyth ar y llaw arall.

Dim ond dwy funud ar ôl i Lee Jenkins daro’r postyn o gornel, sgoriodd Pen-y-bont i wneud y sgôr yn gyfartal. Lansiwyd pêl yn hir o’r asgell chwith gan Dalton tuag at Snaith. Peniodd y blaenwr lawr i Mael Davies, sy’n frodor o Geredigion. Rheolodd Davies y bêl a’i saethu i’r un gornel ble sgoriodd Franklin i Aber yn yr hanner cyntaf.

O hyn ymlaen, roedd gafael Pen-y-bont ar y gêm yn awdurdodol gydag ond ychydig gyfleoedd i Aber wrth iddynt wrthymosod.

Gwelwyd cyfleoedd gan y ddau dîm i ennill y gêm. Cafodd Jonathan Evans gyfle i Aber yn hwyr yn y gêm pan geisiodd godi’r bêl dros ben y golwr ond arbedodd Morris yn dda. Gydag ond pum munud o’r 90 i fynd, gwelwyd arbediad gwych gan Roberts i Aber gan wthio’r bêl yn erbyn y postyn ac allan am gic gornel.

Er i Gwion Owen dderbyn cerdyn coch (am ei ail gerdyn melyn) yn yr amser ychwanegol, nid oedd digon o amser ar ôl ‘r ymwelwyr fanteisio.

Pwynt haeddiannol felly i’r ddau dîm, er fydd Aber yn ddigon hapus gyda’r canlyniad rwy’n siŵr. Oherwydd y gêm gyfartal mae Pen-y-bont yn gostwng i bumed yn y tabl ond mae Aber yn aros yn nawfed, triphwynt uwchben y ddau safle ar waelod yr Uwchgynghrair.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.