Grace Ella yn creu swyn driphlyg i Sharon

Trydydd llyfr yn y gyfres Grace Ella gan awdur o Ogledd Ceredigion yw llyfr y mis.

Doedd dim lansiad i drydydd llyfr Sharon Marie Jones o ganlyniad i COVID, ond mae’n dweud fod y gyfrol mor arbennig iddi a’r ddwy gyfrol arall.

Cyhoeddwyd ei thrydydd llyfr plant, ‘Grace-Ella: Pixie Pandemonium’ ddydd Iau, Mehefin 17eg o Fehefin 2021 a hwn yw Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn y trydydd llyfr y gyfres, mae Grace-Ella, ar ôl dychwelyd o Wersyll y Gwrachod, yn darganfod picsi’r goedwig, Buddy, sydd wedi dianc yn ei bag! Mae Grace-Ella yn mynd â Buddy i’r ysgol – ond yn fuan mae’n dianc ac yn creu pob math o ddrygioni. Yng nghanol y drygioni, yr hud a’r anhrefn sy’n dilyn, rhaid i Grace-Ella a’i ffrindiau ddatrys dirgelwch er mwyn achub Ffair Nadolig yr ysgol.

Dywedodd Sharon am y broses: –

Rwy’n cael llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer fy ysgrifennu o dirwedd Cymru. Mae’r stori yma yn cyfeirio at Ymddiriedolaeth y Coetir (Woodland Trust) a phlannu coed. Rwy’n gobeithio annog darllenwyr ifanc i fynd allan ac archwilio natur – i fynd ar deithiau cerdded coetir, nodi coed a blodau gwyllt, ac i fod yn greadigol a chael hwyl gyda deunyddiau naturiol.

Mae bod yn yr awyr agored mor fuddiol i’n hiechyd corfforol a meddyliol. Dwi’n teimlo yn angerddol am yr angen i feithrin cariad at natur. Wedi’r cyfan, does dim byd mwy hudolus na’r byd natur o’n cwmpas!

Mae Sharon yn wreiddiol o Ddolgellau, ond daeth i Geredigion fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi cyfnod fel athrawes, mae Sharon bellach yn awdures llawn amser yn ogystal â rhedeg busnes newydd Swyn y Môr, sydd yn creu celf o gerrig mân, broc môr a gwydr.

Doedd dim modd cael lansiad i’r llyfr yma fel lansiadau blaenorol yn Waterstones isod, ond mae adnoddau addysgiadol i athrawon (addas ar gyfer blwyddyn 2 i 4) ar gael ar wefan y cyhoeddwr, Firefly.

Mae’r llyfr ar gael am £5.99 yn eich siop lyfrau lleol neu ar Gwales.