Storm Barra yn taro Aberystwyth

Tonnau garw’n bwrw prom Aberystwyth nos Fawrth

Tom Kendall
gan Tom Kendall

Mae gwyntoedd cryfion Storm Barra wedi taro Aberystwyth.

Brynhawn Mawrth dywedodd y Swyddfa Dywydd bod gorsaf dywydd Aberdaron wedi cofnodi gwyntoedd o hyd at 86mya.

Mae hynny’n gryfach na chyflymder y gwynt yn ystod Storm Arwen – yr adeg honno cofnodwyd hyrddiad o 81mya yn Aberporth, Ceredigion.

Parodd rhybudd melyn am wynt mewn grym tan 18:00 nos Fercher ar gyfer rhannau helaeth o’r gorllewin a’r de.