gan
Tom Kendall
Mae gwyntoedd cryfion Storm Barra wedi taro Aberystwyth.
Brynhawn Mawrth dywedodd y Swyddfa Dywydd bod gorsaf dywydd Aberdaron wedi cofnodi gwyntoedd o hyd at 86mya.
Mae hynny’n gryfach na chyflymder y gwynt yn ystod Storm Arwen – yr adeg honno cofnodwyd hyrddiad o 81mya yn Aberporth, Ceredigion.
Parodd rhybudd melyn am wynt mewn grym tan 18:00 nos Fercher ar gyfer rhannau helaeth o’r gorllewin a’r de.