Statws caru gwenyn i’r Cletwr

Paradwys i beillwyr yn derbyn statws Caru Gwenyn yng ngogledd Ceredigion

gan Martin Davis
Prif forder y Cletwr, Tre'r-ddôl

Rhai o’r planhigion sydd ar y fwydlen i bryfed peillio yng ngerddi Cletwr

Arwydd dehongli wrth ymyl y patshyn blodau gwyllt

Arwydd dehongli wrth ymyl y patshyn blodau gwyllt

Mae sŵn arall erbyn hyn yn cystadlu â dwndwr y traffig yn mynd heibio i gaffi a siop gymunedol Cletwr ar yr A487 yn Nhre’r-ddôl, sef sŵn suo côr y peillwyr, oherwydd ers 21 Mehefin eleni mae’r Cletwr wedi sicrhau statws Caru Gwenyn Llywodraeth Cymru.

Mae Caru Gwenyn yn fenter sydd wedi’i hanelu at gymunedau a sefydliadau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, busnesau, prifysgolion a cholegau, addoldai a llawer o sefydliadau eraill ledled Cymru.

“Roedd yn rhaid i ni brofi ein bod wedi cyrraedd nifer o feini prawf pwysig,” meddai Siân Saunders, Tre Taliesin, un o’r criw brwd a aeth ati i gyflwyno cais i gael y statws. “Roedden ni, fel y criw o wirfoddolwyr sy’n gofalu am y gerddi, yn gorfod dangos ein bod wedi dewis planhigion sy’n cynnig porthiant i beillwyr yng ngerddi’r Cletwr, yn darparu ‘llety’ iddyn nhw, ddim yn defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr ac yn annog y gymuned gyfan i gymryd rhan yn y fenter, cael hwyl a dysgu mwy am bwysigrwydd peillwyr yr un pryd. Diolch o galon i bawb sydd wedi’n helpu i gyrraedd y nod.”

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld gostyngiad enbyd yn niferoedd peillwyr o bob math ym mhob cwr – a chofiwch, nid sôn am wenyn mêl yn unig sy’ dan sylw. Mae sawl math o wenyn, cacwn, gwenyn meirch, pryfed hofran, ieir bach yr haf, gwyfynod a hyd yn oed chwilod ymysg rhywogaethau eraill yn cyfrannu at y broses beillio – proses sy’n hollbwysig i ffyniant byd natur yn gyffredinol gan gynnwys ein ffyniant ninnau yn y pen draw ac wrth gwrs gyda chymaint o greaduriaid yn dibynnu arnynt fel ffynhonnell fwyd mae gan unrhyw gwymp yn eu niferoedd oblygiadau difrifol i’r gadwyn fwyd cyfan.