Sioe Talybont ar y we unwaith eto!

Canlyniadau a mwy o Sioe Tal-y-bont

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn

Dros yr wythnosau diwethaf, bu aelodau a ffrindiau Sioe Talybont yn paratoi eu cynigion ar gyfer ein hail sioe rithiol. Roedd ganddynt ddewis o 81 dosbarth amrywiol i gystadlu ynddynt, gan gynnwys arddangos eu defaid, gwartheg neu ieir, ffilmio ymwelwyr byd natur yn eu gerddi, creu rhywbeth o hen beth, a hyd yn oed ffilmio fideo i wneud i ni chwerthin! Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rheiny a gystadlodd, ac am y cannoedd o gynigion a dderbyniom.

Roedd angen paratoi’r cynigion erbyn y 16eg o Awst, er mwyn i’r stiwardiaid brwd ddechrau ar eu gwaith. Bu’n rhaid iddynt uwchlwytho’r holl gynigion i’n tudalen Facebook fel bod y cystadleuwyr yn medru gwirio ein bod wedi derbyn popeth. Yna, gweithiodd ein beirniaid yn galed iawn mewn cyfnod byr i feirniadu’r holl gynigion, fel bod modd datgelu’r canlyniadau ar ddiwrnod y sioe, 28ain o Awst.

Rhyddhawyd y canlyniadau trwy gydol y dydd ar Facebook i arwain at binacl y sioe, sef cyhoeddi enillwyr y cystadlaethau ffotograffiaeth arbennig. Eleni, roedd dwy wobr o £100 i’w hennill am y llun gorau o wartheg Duon Cymreig yn eu cynefin, a’r llun gorau o ddefaid unrhyw frîd mynyddig Cymreig yn eu cynefin. Llongyfarchiadau i Eifiona Evans, Glanaber, Talybont ac i Heledd Williams, Maes yr Haf Farm, Trefriw, Llanrwst am ddod i’r brig. Braf oedd gweld cefnogwyr lleol ac o bell yn llwyddo.

Mae’r holl ganlyniadau i’w gweld yma, a tra byddwch chi ar ein tudalen, ewch i gael golwg ar glipiau Ann Jenkins, Llety’r Bugail o’r sioe yn 1995! Mae’r ymateb i’r rhain wedi bod yn wych, ac mae’n saff i ddweud ein bod ni gyd yn falch bod Mamgu yn cario ei chamera gyda hi i bobman!

1 sylw

Ann Jenkins
Ann Jenkins

Da iawn Betsan, diddorol iawn, a chware teg i ti am helpu.

Mae’r sylwadau wedi cau.