‘Sdim byd i’w wneud yn Aberystwyth’
Dyna’r sylw sydd wedi sbarduno Rummers Bar i weithredu a chreu poster unigryw yn amlygu 50 o dasgau gwahanol gellir gwneud yn y dref a’r cyffiniau.
Mae 50 o flychau aur yn gorchuddio 50 delwedd o 50 o bethau i’w gwneud o amgylch Aberystwyth. Ar ôl i chi gwblhau’r dasg gallwch grafu’r gorchudd aur i ddatgelu’r ddelwedd.
Yn Saesneg mae’r poster ar hyn o bryd ond wrth ddarllen ymlaen fe welwch fod y ddau sy’n gyfrifol am ei gynhyrchu yn awyddus i ddatblygu’r poster ymehllach.
Syniad gwych ond pwy yw’r meddwl creadigol tu ôl i’r cynllun tybed. Dyma fynd i ofyn mwy.
Pwy ddaeth lan gyda’r syniad a pham?
Pwy? Crewyd y syniad gan Cambrian Concepts, partneriaeth newydd rhwng Marcus Sedghi, perchennog Rummers Wine Bar, a Jennifer Moffitt, arlunydd o Aberystwyth.
Mae Marcus wedi bod yn ymweld ag Aberystwyth a Borth gydoel ei oes i ymweld a’i ddiweddar dad bedydd Jack Ormerod a oedd yn byw yn Borth. Agorodd Jack lygaid Marcus i brydferthwch Cymru a’i phobl ac o oed cynnar mae Marcus wedi eisiau byw yma a chyfrannu at gymuned Aberystwyth.
Ganwyd Jennifer Moffitt yn Aberystwyth ac mae wedi byw yn y dref neu bentrefi cyfagos drwy gydol ei hoes. Yn arlunydd talentog, mae Jennifer wedi derbyn comisynau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a derbyn gwobr darlunydd llyfrau Cymraeg y flwyddyn. Mae hefyd yn ffotograffwr brwdfrydig o’r tirwedd lleol.
Pam? “ Yn siarad fel tafarnwr, mae wedi bod yn gyfnod anodd a rhwystredig i’r diwydiant lletygarwch. Dwi wedi trio achub cymaint o swyddi lleol tra’n llywio drwy’r storm ond dydw i ddim yn gallu eistedd yn diogi tra’n aros i bethau ddychwelyd i normal a mae fy nghefndir yn natblygiad cymunedau a cysyniadau creadigol” meddai Marcus.
“Dwi’n teimlo yn drist pan mae pobl yn dweud nad oes unrhywbeth i’w wneud yn Aber oherwydd mae gymaint o bethau i wneud yma a llawer o bethau prydferth i’w gweld os ydych chi’n defnyddio eich dychymyg ac yn barod i chwilio amdanynt. Roeddwn i yn dringo coed o oed ifanc! Hefyd, mae’n eithriadol bwysig er lles eich iechyd meddwl, i gael pethau i wneud a phobl i wneud pethau gyda. Mae’n gyfle i gadw pobl yn siarad a’i gilydd ac mae hyn yn hanfodol bwysig i iechyd meddwl” dywedodd Jennifer.
O ddifrif ‘Pam?’ – “ Oherwydd ein bod ni yn caru Aberystwyth!” dywedodd y ddau.
Pa fath o ymateb rydych chi wedi gael mor belled?
I fod yn onest, gallwn ni ddim bod yn fwy diolchgar am yr ymateb hyd yma, mae wedi bod yn ffrwydriad o bositrifrwydd. Teimlwn yn falch i gael cymaint yn gwerthfawrogi ein gwaith a mae rhai o’r negeseuon wir wedi ein cyffwrdd. Rhai yn siarad am rhywbeth i edrych ymlaen i’w wneud gyda’r wyrion ar ôl y cyfnod clo ac eraill yn son am gyfle i ddianc o unigrwydd y cyfnod clo. I feddwl bod hyn wedi deillio o syniad gafon ni ychydig fisoedd yn ôl mae’r ymateb wedi rhoi gwir deimlad i ni fod amseroedd gwych o’n blaenau ni bob un.
Beth yw eich hoff beth chi i wneud yn Aberystwyth?
“Yr traeth a’r llwybr arfordirol i fi. Mae mynd i eistedd ar y clogwyni neu lan ar Consti yn fy ysbrydoli a wir yn anghygoel. Rydym mor lwcus i fyw yma,” dywedodd Jennifer.
“Wel, rydym yn caru Spartacus digon i’w roi ar y poster ond hefyd dwi wir yn gweld eisiau cerdded yn Ynys Las gyda fy nhad bedydd, Duw gorffwys ei enaid,” dywedodd Marcus.
A’r cwestiwn pwysicaf….
Sut gall bobl gael gafael ar y poster yma?
Am y tro, mae ar gael ar-lein yn unig. Yn ddelfrydol hoffen ni werthu’r posteri yn lleol a gweithio gyda busnesau i creu argraffiadau pellach a cysyniadau eraill yn y dyfodol – byddem wrth ein bodd clywed gan unrhyw un fyddai a diddordeb i ddatblygu syniadau! Mi fyddai gwerthu’r poster yn yr Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwireddu breuddwyd!
Cysylltwch gyda ni trwy dudalen Facebook Rummers bar neu ein cyfeiriad e-bost rummersposters@gmail.com os gwelwch yn dda.
Nid ydym yn medru ateb y ffon ar hyn o bryd ac rydym wedi darbwyllo Marcus i beidio a datgelu ei rhif ffon symudol i bawb!
Y pris yw £10 + ffi postio a pecynnu. Mae £1 o werthiant pob poster yn cael ei roi i Beiciau Gwaed Cymru. Rydym yn gobeithio bydd y poster yn codi swm da i’r elusen ac nad oes unrhyw yn mynd ati i atgynhyrchu’r poster gan effeithio ar y sŵm a godir i’r elusen.
Diolch yn fawr i chi gyd am eich geiriau caredig am y poster! Rydym yn dymuno chi gyd iechyd dda, ffyniant a goleuni.