Sali Mali ar fin cyrraedd Tal-y-bont!

Hanes llyfrau Gwasg Gomer yn cyrraedd Tal-y-bont

Betsan Siencyn
gan Betsan Siencyn
Llyfrau

Llyfrau Gwasg Gomer yn cyrraedd warws newydd Y Lolfa

Gwyddom erbyn hyn, fod busnes cyhoeddi Gwasg Gomer, Llandysul wedi ei werthu i ddwy wasg leol i ni, sef gwasg Y Lolfa yng nghanol pentref Tal-y-bont a gwasg Atebol sydd â’i bencadlys yn y Fagwyr ar gyrion y pentref.

Beth fydd yn digwydd i holl deitlau llyfrau oedolion a phlant yng nghatalog Gomer?

Mae’r Lolfa wedi gorfod ymestyn ei warws lyfrau a hysbysebu swydd rheolwr y warws ac mae’r llyfrau wedi dechrau cyrraedd, ac yn cyrraedd yn nhrefn wyddor y teitlau.

Bydd y warws yn stôr i’r amrywiaeth eang o lyfrau ar ôl-restr Gwasg Gomer, sy’n dyddio yn ôl i 1946! Mae’r rhestr yn cynnwys rhai o lyfrau enwocaf yr iaith Gymraeg, fel Cysgod y Cryman, Islwyn Ffowc Elis, a rhai o lyfrau T. Llew Jones. Mae llyfrau o’r fath yn hollbwysig i ddiwylliant ac etifeddiaeth ni’r Cymry, a bydd modd i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau unwaith eto.

Gobeithir cyhoeddi ambell i lyfr a deunydd ychwanegol bob blwyddyn, gan gynnwys cymeriadau brand Sali Mali i’r plant, a llyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion.

Nod Atebol yw creu swyddi i bobl ifanc gwledig Cymru gyda’r datblygiad yma a bydd y bartneriaeth â’r Lolfa yn sicrhau diogelwch i’r swyddi hyn.

Mair Nutting a Betsan Siencyn