Pedair elusen yn elwa o gasgliad Rotari Aberystwyth

Y Rotari yn dosbarthu arian ein Casgliad Nadolig i elusennau lleol

gan Hywel M Davies
IMG_3245

Dr Alan Axford

IMG_3246

Ben Freeman DASH

IMG_3248

Sarah Russell-Saw MACMILLAN

IMG_3250

Nina Rice, ACTION FOR CHILDREN

Er gwaetha’r cyfnod clo, llwyddodd Rotari Aberystwyth godi £2000 o blith ei aelodau ar gyfer Casgliad Nadolig 2020.

Ar 11 Mai fe gyflwynwyd £400 yr un i gynrychiolwyr HAHAV, DASH Ceredigion, Macmillan, ‘Action for Children’ a Chyfeillion Ysbyty Bronglais, mewn cyfarfod rhithiol ar-lein.

Llywydd y noson oedd Howard Jones, Llywydd Rotari Aberystwyth eleni.

Mae’n fraint ac yn bleser gan Rotari Aberystwyth gefnogi’r elusennau hyn sy’n gwneud gwaith mor ardderchog yn ein cymuned leol. Edrychwn ymlaen at estyn ein cefnogaeth eto i’r dyfodol.