Rhifyn Hydref Y DDOLEN

Ydych chi wedi cael gafael ar eich copi chi?

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
clawr_Hydref

Pythefnos sydd ar ôl i gael gafael ar gopi o rifyn Hydref papur bro Y DDOLEN. Mae’n rhifyn llawn arall gydag erthyglau diddorol i’ch diddanu.
Ydy, mae’r pris wedi codi i £1 a diolch i bawb am ei brynu ar y pris newydd. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i gynhyrchu papur bro diddorol i’n darllenwyr.

Os cewch unrhyw drafferth i brynu copi, cysylltwch â ni y.ddolen@gmail.com a dwi’n siŵr allwn ni drefnu bod un yn eich cyrraedd.

Blas o gynnwys mis Hydref

  • Newyddion o’r Pentrefi
  • Rhandir Blaenplwyf
  • Ras Geir Clasurol Llanfihangel y Creuddyn
  • Fy ngwaith i – Eurion Thomas, Pantycrug
  • O’r gegin – Myffins Banana, Siocled a Chnau Cyll
  • Sgwrs gyda chwmni bwyd Gwella
  • Cornel y Beirdd
  • Nodiadau Natur
  • Aros i Feddwl
  • O’r Archif: Storïau Gwerin
  • Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol
  • Cerdyn Post o Ohio
  • Croesair

Mae’r golygyddion wrthi yn casglu newyddion, lluniau ac erthyglau ar gyfer rhifyn Tachwedd. Danfonwch eich deunydd draw at y.ddolen@gmail.com erbyn canol yr wythnos.

Edrychwn ymlaen at gyhoeddi rhestr destunau Eisteddfod Y DDOLEN 2022 yn y rhifyn nesaf.