gan
Y Ddolen (papur bro)
Pythefnos sydd ar ôl i gael gafael ar gopi o rifyn Hydref papur bro Y DDOLEN. Mae’n rhifyn llawn arall gydag erthyglau diddorol i’ch diddanu.
Ydy, mae’r pris wedi codi i £1 a diolch i bawb am ei brynu ar y pris newydd. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth a byddwn yn parhau i wneud ein gorau i gynhyrchu papur bro diddorol i’n darllenwyr.
Os cewch unrhyw drafferth i brynu copi, cysylltwch â ni y.ddolen@gmail.com a dwi’n siŵr allwn ni drefnu bod un yn eich cyrraedd.
Blas o gynnwys mis Hydref
- Newyddion o’r Pentrefi
- Rhandir Blaenplwyf
- Ras Geir Clasurol Llanfihangel y Creuddyn
- Fy ngwaith i – Eurion Thomas, Pantycrug
- O’r gegin – Myffins Banana, Siocled a Chnau Cyll
- Sgwrs gyda chwmni bwyd Gwella
- Cornel y Beirdd
- Nodiadau Natur
- Aros i Feddwl
- O’r Archif: Storïau Gwerin
- Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol
- Cerdyn Post o Ohio
- Croesair
Mae’r golygyddion wrthi yn casglu newyddion, lluniau ac erthyglau ar gyfer rhifyn Tachwedd. Danfonwch eich deunydd draw at y.ddolen@gmail.com erbyn canol yr wythnos.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddi rhestr destunau Eisteddfod Y DDOLEN 2022 yn y rhifyn nesaf.