Rhedeg 31 milltir mewn 31 diwrnod

Rhedeg milltir y dydd i godi arian at Ymchwil Canser!

Lowri Mererid Hopkins
gan Lowri Mererid Hopkins
209121173_10159436876757436

Yn ystod mis Gorffennaf mi fyddaf yn ymuno â miloedd o bobl ar draws y DU i redeg 31 o filltiroedd mewn 31 o ddiwrnodau – milltir y dydd!

Mae cancr yn effeithio ar nifer fawr o bobl yn lleol, ac mae codi arian tuag at yr elusen yn rhywbeth rydw i wedi’i wneud yn rheolaidd drwy redeg y Ras Dros Fywyd (Race for Life) yn Aberystwyth. Gan nad oes digwyddiadau Ras Dros Fywyd yn cael eu cynnal eleni, rwyf wedi penderfynu cymryd rhan yn y sialens hon.

Bydda i’n diweddaru fy nhudalen codi arian ar Facebook yn rheolaidd.

Gwerthfawrogaf unrhyw gyfraniad tuag at yr elusen.

Gallwch gyfrannu YMA

Gyda’n gilydd fe wnawn ni guro cancr!