Rhamant y Cwpan

Gwelwyd buddugoliaethau yng Nghoedlan y Parc a Chae Baker wrth i Aberystwyth a Phenrhyncoch gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

gan Gruffudd Huw
Cefnogwyr Aber Valley yn mwynhau
Banner Penrhyn

Gyda’r haul yn tywynnu’n braf, roedd hi’n addo bod yn brynhawn gwych o bêl-droed. Roedd Aberystwyth yn wynebu Aber Valley o Abertridwr ac roedd Penrhyn yn wynebu Ynyshir Albions o’r Rhondda.

Gydag Aber Valley yn chwarae yn y bedwaredd adran, roedd gêm yn erbyn tîm o’r uwch-gynghrair yn mynd i fod yn dipyn o achlysur. Llwyddodd y tîm o Abertridwr i ddenu chwe llond bws o gefnogwyr brwd yn barod i gefnogi eu clwb ar ddiwrnod hanesyddol iddynt.

Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi’u tîm lleol ac roedd yn wych clywed y dorf yn rhuo yn Eisteddle Dias! Gyda’r eisteddle’n crynu, dechreuodd y gêm.

Bu bron i Aber Valley sgorio ar ôl chwe munud ond fe arbedodd Gregor Zabret i atal dechrau breuddwydiol i’r ymwelwyr. Munud yn ddiweddarach, agorwyd y sgorio gyda Raul Correia yn sgorio’i gôl gyntaf i Aberystwyth.

Roedd rhaid aros am bron i hanner hawr cyn i’r tîm cartref ddyblu’u mantais gyda Harry Franklin yn sgorio. Fe lwyddodd i Aberystwyth sgorio dwy arall cyn diwedd yr hanner. Sgoriodd Matthew Jones gic rydd berffaith o 25 llath ac Owain Jones yn crymanu’r bêl yn grefftus i gornel dde’r rhwyd o gornel chwith y cwrt cosbi (gwerth i’w weld ar Sgorio).

Yn yr ail hanner agorodd y llifddorau gyda’r sgôr terfynol yn 9-0 i’r tîm cartref.  Sgoriodd Harry Franklin ac Owain Jones ‘hat-trick’ yr un yn ystod y gêm. Rhys Davies sgoriodd y gôl arall.

Roedd y gêm dipyn agosach ar Gae Baker gydag Ynyshir yn sgorio gyntaf ond cyn diwedd yr hanner, sgoriodd yr hen ben Geoff Kellaway gic o’r smotyn. Roedd yr ymwelwyr o’r bedwaredd adran yn rhoi sialens i Benrhyn ac ar ôl 56 munud bu bron iddynt fynd ar y blaen gyda Scott Jones yn taro ochr allanol y rhwyd.

Ar ôl awr o chwarae, daeth rhyddhad i’r cefnogwyr cartref gyda Steffan Gittins yn sgorio foli wych ar ôl croesiad pwerus gan Josh Shaw.

Gyda deng munud yn weddill, roedd Ynyshir lawr i ddeg dyn ar ôl cerdyn coch. Ychwanegwyd dwy gôl arall i gyfanswm Penrhyn gyda Harri Horwood a Josh Shaw yn sgorio i wneud y sgôr terfynol yn 4-1.

Diwrnod llwyddiannus i’r timau lleol yn y gystadleuaeth yma, a diwrnod i’w gofio yn sicr i’r timau llai. Ymlaen i’r rownd nesaf!