Rali Gwrth Hiliaeth yn Aberystwyth

Rali i gefnogi pobl sydd wedi dioddef hiliaeth

gan R Francis

Cynhaliwyd Rali Gwrth Hiliaeth yn ddiweddar yn Aberystwyth er mwyn sefyll mewn undod gyda phobl sydd wedi dioddef sarhad ac ymosodiadau hiliol.

Digwyddodd y rali, ‘Aberystwyth Gyda’n Gilydd yn Dweud Na i Hiliaeth’, yng Ngerddi’r Castell am 4pm ar 26 Mehefin.

Trefnwyd y digwyddiad gan Rhodri Francis, ac ymysg y siaradwyr roedd y Cynghorydd Alun Williams, Maer y Dref, Bianca Ali o Mae Bywydau Du o Bwys, Nimi Trivedi o Safwn Yn Erbyn Hiliaeth Cymru a Rosedona Williams, myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth. Darllenwyd neges o gefnogaeth a ddanfonwyd gan Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Rhodri Francis fod hyn yn digwydd er mwyn dangos ‘cariad a thosturi’ tuag at bobl sydd wedi dioddef hiliaeth, pobl fel Rosedona Williams.

Y mis diwethaf, dioddefodd Rosedona Williams sarhad ac ymosodiad hilol erchyll wrth deithio ar drên i Aberystwyth.

Dangoswyd fideo wedi ei gymryd gan Rosedona ar ei ffôn yn dangos dyn gwyn yn ei sarhau hi a phobl ddu ac Asiaidd eraill yn hiliol tra’n gwneud y saliwt Nazi droeon. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd Nimi Trivedi for ymosodiadau hiliol “ar gynnydd”, gan ychwanegu “Mae’n bwysig dod â phobl at ei gilydd mewn undod gyda Rosedona ac eraill sydd wedi dioddef hiliaeth ac hefyd i roi neges glir fod y math yma o ymddygiad yn gwbl annerbyniol.  Byddwn yn tynnu sylw at hiliaeth. Mae angen rhoi hyder i bobl i ddweud nad yw’r mwyafrif o bobl yn hiliol, a bod pobl hiliol yn y lleiafrif. Wnawn ni ddim derbyn hiliaeth. Rydym yn gwybod fod sarhau hiliol ar lafar yn arwain at ymosodiadau corfforol difrifol.”

Siaradodd Nimi hefyd am gangen Safwn i Fyny yn Erbyn Hiliaeth Aberystwyth sydd yn cael ei sefydlu yn awr, er mwyn helpu unigolion sydd wedi didoddef hiliaeth. Dywedodd Nimi y dylai unrhyw un sydd am gefnogi a bod yn weithgar gyda’r gangen gysylltu â’r tudalen Facebook ‘Stand up to Racism Aberystwyth’.